BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Eco'r Wyddfa
Emyr Gibson - y Brenin Ri Digon Teg! Cynhyrchiad diweddaraf 'Rygarug'.
13 Mawrth 2003
Wedi misoedd o waith caled gan aelodau, tiwtoriaid, rhieni a chyfeillion daeth cynhyrchiad diweddaraf Rygarug 'Digon Teg'! - yn fyw ar lwyfan Theatr Seilo, Caernarfon ar nos Wener 21ain a nos Sadwrn 22ain o Chwefror.

Daeth yn agos i chwe chant o bobl i'r Theatr dros y ddwy noson a mawr oedd eu canmoliaeth o'r perfformiad.

Hanes tylwythen deg unigryw sy'n dod yn fyw ar noson stormus yn y Sefydliad Coffa, Llanrug yw 'Digon Teg!'. Gyda chymorth y dylwythen, mae aelodau Rygarug yn mynd ar daith anhygoel i ddarganfod y sioe berffaith.

Treuliwyd yr wythnos hanner tymor yn Theatr Seilo yn ymarfer a pharatoi ar gyfer y sioe. Diolch yn fawr ir holl aelodau am eu amynedd a'u parodrwydd i deithio'n ddyddiol ar y bws o Lanrug i Gaernarfon. Roedd yn waith caled ac ar brydiau yn ddiflas ond roedd yn braf clywed y plant yn arfer termau theatrig a thermau technegol yn hollol naturiol erbyn diwedd yr wythnos!

Daeth nifer o wynebau adnabyddus i gymryd rhan yn y sioe. Cododd John Eifion ofn ar bawb fel y 'Dyn Drwg yn y Caws', roedd y gynulleidfa wrth eu boddau gyda Emyr Gibson fel y Brenin Ri a daeth Elfed Morris, Y Self Made Man ag ychydig o razzamatazz i'r llwyfan. Roedd yn braf gweld plant, pobol ifanc ac oedolion o bob rhan o Ddyffryn Peris yn cyd-weithio fel un tîm.

Wel, mae'r sioe drosodd ond nid dyna'r stori i Rygarug o bell ffordd. Mae nifer o weithdai ar y gweill dros y misoedd nesaf - Syrcas, Band Samba a Dawns a lot o hwyl ar ôl yr holl waith caled. Yn yr haf byddwn yn ymweld â set y gyfres deledu Rownd a Rownd ym Mhorthaethwy.

Torri record trwy ddawnsio Macarena !
Ar Fehefin 14eg yn Llanberis byddwn yn ceisio gosod record ar gyfer y Guinness Book o Record Breakers drwy gael y nifer fwyaf i ddawnsio Macarena, Dawns Rygarug ac eraill. Fe fydd gwestai arbennig o'r cyfryngau ar byd chwaraeon yn dod yno i'n cynorthwyo. Mwy o fanylion i ddod!

Os hoffech ymuno yn yr hwyl cysylltwch â Rygarug yn 12, Stryd Twll yn y Wal, Caernarfon, Gwynedd LL5. 1RF neu ffoniwch (01286) 675766.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy