|
Am 11.00 fore Sadwrn, 25 Awst, daeth cynulleidfa deilwng o deulu, cyfoedion, cydweithwyr, cyn-ddisgyblion a ffrindiau lu i'r neuadd gymuned i dalu eu teyrngedau i Huw Lloyd Edwards, athro a dramodydd, a anwyd yn Siop Gron yn 1916.
Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan y cynghorydd Huw Price Hughes, cadeirydd y cyngor cymuned, a llywiwyd y cyfarfod gan Phyllis Elis.
Bu'r Parchedig Tegid Roberts, J.O. Roberts, William Lewis, Rol Williams. Idris Thomas a Beti Williams yn adrodd eu hatgofion melys a doniol amdano a chafwyd teyrnged ysgrifenedig gan Richard Morris Jones, cyn-ddisgybl iddo.
Profiad hyfryd i Ann ac Eleri a'r teulu oll oedd clywed y teyrngedau aruchel hyn am eu tad a'u taid - pob un yn sôn am ei ddireidi a'i ddylanwad fel athro Saesneg yn Ysgol Uwchradd Pen-y-groes, ac wedyn fel darlithydd dylanwadol yn y Coleg Normal.
Yn y llyfr Tri Dramaydd Cyfoes (sef Saunders Lewis, John Gwilym Jones a Huw Lloyd Edwards dyma ddywed yr awdur J.Ellis Williams,
'Roedd gan Huw Lloyd Edwards y ddawn gynhenid i greu difyrrwch, a adlonai gynulleidfa, ac fe sylweddolodd y gellid defnyddio'r ddawn hon, nid yn unig i gyffroi cynulleidfa i chwerthin, ond hefyd i'w chyffroi i feddwl drosti ei hun.'
A dyna a wnaeth yn ei gomediau ysgafn a'i ddramau radio a llwyfan.
Wedi'r teyrngedau fe ddadorchuddiwyd cofeb o waith Gwilym Williams, Crefft Elidir, ar wal Siop Gron gan Ann ac Eleri, ei ddwy ferch.
Paratowyd lluniaeth ysgafn i bawb a ddymunai ddod yn ôl i'r Neuadd i gael sgwrs a hel atgofion.
Gwireddwyd breuddwyd y Sadwrn hwn a diolchir i aelodau'r cyngor cymuned a fu'n ddiwyd yn cysylltu, hysbysebu a gwneud paratoadau trylwyr i sicrhau cydnabyddiaeth haeddiannol ein pentref, cymuned a'n gwlad i un o'r 'Tri Dramaydd Cyfoes'.
 |