|
Mae dylanwad y chwarel yn fawr ar y band - dylanwad sydd yn parhau yn gryf iawn hyd heddiw - gyda'r band yn ymarfer mewn hen felin lechi yn y pentref. Nawr, gyda'r band yn rhyddhau yr ail gryno ddisg yn ei hanes, gwelir y band presennol yn talu teyrnged i'w cyn dadau, ond ar yr un pryd yn edrych i'r dyfodol - dyfodol y band yn Neiniolen, sy'n hynod ddiogel yng nghol ieuenctid y gymdeithas.
Yn 2001, comisiynodd y band ddarn newydd o gerddoriaeth gan y cyfansoddwr bandiau pres byd enwog, Darrol Barry, i ddathlu ailadeiladu eu hystafell ymarfer. Mae'r darn mewn tri symudiad: 'Y Chwarel', 'Afon Caledffrwd' a 'Hen Felin' - enwau sy'n disgrifio cysylltiad y band a'r diwydiant llechi.
Enw'r darn cyflawn yw 'Llechen Las', a dyma hefyd yw enw'r gryno ddisg. Cant eu hailadrodd (a'u clywed ar un trac) mewn geiriau a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y recordiad hwn gan y Prifardd Dafydd John Pritchard i adlewyrchu hanes y band a'r chwarel:
Llechen las, cynhaliaeth;
Llechen las, hunaniaeth.
Creigiau'r co' ydi'r rhain
lle mae gwaed wedi ceulo'n borffor.
Mae synau'r cŷn i'w clywed
yn fyw, fyw fan hyn,
a'r llwch yn ddu mewn 'sgyfaint.
Llechen las.
Llechen las, cynhaliaeth;
Llechen las, hunaniaeth.
Ond mae'r gan yn y graig;
y gan fu'n ein cynnal pob un haf a gaeaf.
Y gân hon yw craig
ein goroesiad;
ac ynddi, arni, bydd can yn naddu'r llechen.
Llechen las.
Recordiwyd y ddisg dros benwythnos andros o boeth ym mis Gorffennaf yng Nghanolfan Dinorwig gan gwmni recordio Dolce Productions o dde Cymru.
Roedd yn brofiad arbennig recordio'r gerddoriaeth yng nghysgod yr hen chwarel a'i chynefin, yn enwedig gan fod aelodau'r band ieuenctid yn ymuno ag aelodau'r band 'mawr' mewn dwy eitem ar y ddisg.
Dyma yw'r recordiad cyntaf yn hanes Band Deiniolen ble roedd yr holl aelodau yn cyd chwarae gyda'i gilydd. Mewn un eitem, mae dros 60 o'r aelodau'n perfformio - o'r ieuengaf sy'n 6 oed i'r hynaf sy'n 70!
Braf hefyd oedd cael croesawu cyn aelod yn ôl i'w fan enedigol i berfformio unawd. Mae llwyddiant Gavin Saynor yn enghraifft wych o'r talent sy'n cael ei feithrin yn yr Hen Felin yn Neiniolen - ac roedd yn bleser o'r mwyaf cael cyfeilio i un o unawdwyr blaenaf y byd bandiau pres ym Mhrydain. Braint hefyd yw cael cyfeilio John Eifion, sydd erbyn hyn y aelod gwerthfawr o bwyllgor y band. Mae enw John Eifion y adnabyddus ledled y wlad, ac mae'n anrhydedd cael cyflwyno eitem ganddo ar y ddisg.
Am fwy o fanylion am y CD, ynghyd â lluniau o'r penwythnos recordio ac enghreifftiau o gerddoriaeth ymwelwch â http://www.deiniolenband.org.uk
 |