|
Ond dyna ddigwyddodd a dyma'r lluniau i brofi. Roedd Nia Môn, merch Siân, sy'n byw yn Llanberis, wedi cystadlu am gadair Eisteddfod Patagonia. Cwta bythefnos cyn yr Eisteddfod ei hun cafodd Nia alwad i'w hysbysu ei bod wedi ennill y Gadair, a gwahoddiad i fynd i'r seremoni i'w derbyn. Oherwydd ei bod yn brysur yn ei gwaith, nid oedd hi'n medru mynd yr holl ffordd i dde America i nôl ei gwobr - felly dyma droi at ei mam, oedd ar wyliau yno. Mewn sgwrs ffôn fe dorrodd y newyddion a gofyn a fyddai hi'n fodlon cael ei chadeirio yn ei lle a dod a'r gadair adre i Gymru! Bu'n rhaid i Siân gadw'r gyfrinach oddi wrth weddill y criw ar y trip am rai dyddiau.
"Ar ôl i mi siarad hefo Nia, mi ddywedais wrth un ffrind ac mi oedd y ddwy ohonon ni'n crïo, ond doedd neb arall yn gwybod," meddai. "Cyn y seremoni doeddwn i ddim yn meddwl y baswn i'n medru mynd ar y llwyfan, ro'n i'n ofni methu stopio crïo. Ond mi gymrais i ddwy barasetamol i setlo'r nerfau ac roedd pob dim yn iawn." Roedd y seremoni yn debyg i'r un sy'n gyfarwydd i ni yma yng Nghymru ond bod lluniau o Nia ar sgrîn tu cefn iddi ar y llwyfan. Ac er poeni am y seremoni, fe fwynhaodd Siân y profiad: "Roedd o'n OK yn y diwedd, gan nad fi oedd wedi ennill mewn gwirionedd, felly mi wnes i fwynhau," meddai. Ar ôl y cadeirio roedd yn cael ei stopio a'i llongyfarch gan bobl ar y stryd a bu lot o ddathlu. Ond nid oedd yr anturiaethau wedi dod i ben ... roedd yn rhaid dod â'r Gadair adre. Rhaid oedd ei thynnu'n ddarnau, ei phacio a'i rhoi ar do'r bws i fynd i'r maes awyr. Dipyn o sioc oedd darganfod ei bod mor drwm nes bod rhaid talu bron i £800 i'w chludo'n ôl i Gymru. Ond gan nad oedd yr awyren yn llawn - ac oherwydd caredigrwydd yr Archentwyr - £320 gostiodd y cludo yn y diwedd, gan iddynt rannu'r pwysau ychwanegol rhwng y seddi gwag.
Meddai Nia Môn: "Doeddwn i ddim yn mynd i gystadlu yn y lle cynta. Roedd mam yn mynd yno ar drip Cwmni Drama Llwydyrus a hi oedd yn swnian, felly yn y diwedd mi wnes i. Doeddwn i ddim yn medru mynd yno fy hun achos rown i'n ei chanol hi hefo gwaith."
 |