Dynion ifanc 'gorhyderus' yn destun pryder i dimau achub mynydd

Llun o dri dyn ar fynydd yn y niwl. Mae'r tri yn gwisgo dillad du a llwyd, ac mae dau ohonyn nhw'n codi bawd tra bod y trydydd gyda'i freichiau wedi'u croesi.Ffynhonnell y llun, Nathan Mburu
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Nathan (chwith) yn sownd ar fynydd Crib Goch ar ôl cael poen yn ei goesau

  • Cyhoeddwyd

Mae timau achub mynydd yn poeni fod dynion ifanc yn "goramcan" pa mor brofiadol ydyn nhw, ar ôl derbyn nifer o alwadau ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis eu galw saith gwaith ym mis Tachwedd i achosion ar Grib Goch ar Yr Wyddfa oedd yn ymwneud â dynion ifanc o dan 24 oed.

Fe fu'n "fis prysur", yn ôl Jurgen Dissman, cadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, o ran nifer y bobl oedd heb ragweld pa mor heriol yw'r ardal yr adeg yma o'r flwyddyn a mynd i drafferthion.

Aeth Nathan Mburu, 24, o Lundain, yn sownd ar y llwybr fis Mai diwethaf.

Oni bai am y tîm achub, meddai, byddai ef a'i ffrindiau wedi gallu marw trwy fod yn "or-hyderus" a pheidio â pharatoi'n gywir.

Roedd Nathan, sy'n ddylanwadwr ffitrwydd, â'i ffrindiau wedi trefnu penwythnos i ddringo Crib Goch, sy'n cael ei hystyried yn llwybr heriol.

Roedd Nathan eisoes wedi cwblhau her y tri chopa yn Swydd Efrog, felly nid dyma ei brofiad dringo cyntaf, ond mae'n cyfaddef nad oedden nhw fel criw wedi paratoi o flaen llaw ar gyfer yr her yn Eryri.

"Wnaethon ni ddim edrych gormod sut fyddai'r tywydd," eglurodd. "Roedd o'r fwy o agwedd 'dan ni'n rhydd, awn ni amdani',".

Dyn yn sefyll ar gribyn mynydd. Mae wrthi'n dringo ac yn gafael ar y tir o'i flaen. Mae hi'n niwlog.Ffynhonnell y llun, Nathan Mburu
Disgrifiad o’r llun,

Sylwodd Nathan a'i ffrindiau bod y tywydd yn dechrau newid, o fod yn heulog a braf i fod yn wyntog a chymylog

Aeth y tri yn eu blaenau drwy law trwm a'r gwynt, ac wrth gyrraedd y cribyn dechreuodd Nathan deimlo poen yn ei goesau.

"O'n i'n ceisio cynhesu fy nghoesa' a symud ymlaen ond do'n i methu," meddai.

Dyna phryd sylweddolodd y tri eu bod yn sownd.

"Doedden ni methu mynd i lawr y ffordd ddaethon ni, neu fydden ni wedi syrthio oddi arno," dywedodd.

"Ond doedden ni methu mynd yn ein blaenau 'chwaith achos o'n i methu symud."

Doedd dim dewis ona galw y gwasanaethau brys am help, ond oherwydd y tywydd gwael bu'n rhaid i'r tri aros am bron chwech awr cyn roedd hi'n ddigon diogel i dîm achub mynydd eu cyrraedd.

Hunlun o'r tri dyn yn eistedd ar gribyn mynydd yn y niwl. Mae'r tri yn gwisgo dillad du a llwyd, ac mae'r dyn sy'n tynnu'r llun mewn cot oren. Mae'r tri ohhonyn nhw'n codi bawr, ac mae gan ddau o'r tri flanced ffoel o'u hamgylch.Ffynhonnell y llun, Nathan Mburu
Disgrifiad o’r llun,

Nathan â'i ffrindiau mewn hwyliau da ar y cribyn - mae'n "amhosib", meddai, i ddisgrifio'r rhyddhad o gael eu hachub

Dechreuodd Nathan deimlo sgîl-effeithiau'r oerfel, a dechrau colli ei ymwybyddiaeth ar gribyn y mynydd.

Mae'n cofio'r rhyddhad wrth weld y tîm achub yn cyrraedd.

"Mae'n amhosib disgrifio'r teimlad o weld y tortsh yn y pellter," meddai.

Cafodd y dynion eu hasesu a'u trin gan y tîm cyn cael eu tywys i lawr y mynydd.

"Roedden ni gyd mor hapus achos ar un pwynt, roedden ni'n credu ein bod am farw.

"Roedd fy ffrindiau'n dweud wrtha i 'Nathan, roedden ni'n meddwl fy fod wedi marw."

Hunlun o Nathan mewn siwmper ddu, ac yn gafael paned o goffi. Mae'n sefyll wrth ymyl llun wedi'i fframio o ddyn yn rhewi gyda'r geiriau 'I'm lost' uwch ei ben.Ffynhonnell y llun, Nathan Mburu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nathan yn gwerthfawrogi'r tîm achub mynydd yn fawr iawn am eu cymorth

O'r 22 o alwadau brys ym mis Tachwedd eleni, roedd angen pob aelod o Dîm Achub Mynydd Llanberis i helpu yn 15 o'r achosion.

Yn ôl Cyngor Mynydda Prydain, mae'r sgrialfa gradd un i fyny Crib Goch yn gallu bod yn weddol syml i'r mwyafrif, ond yn gallu bod yn heriol pan fo'r tywydd yn wael.

Yn y gaeaf, medd Jurgen Dissman, gall taith diwrnod arferol droi'n sefyllfa beryglus iawn yn gyflym iawn.

Pan fo'r tywydd yn rhy ddifrifol mae'n rhaid i'r tîm ddisgwyl i'r amodau wella, a gall hynny achosi oedi hir.

"Er ein hyfforddiant a phrofiad, mae diogelwch achubwyr wastad yn rhan bwysog o'r broses penderfynu," ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd ar ran Tîm Mynydd Aberhonddu, sy'n gwasanaethu ail barc cenedlaethol mwyaf Cymru, y Bannau Brycheiniog, eu bod nhw hefyd wedi derbyn galwadau wedi i bobl fethu â llwyr ystyried yr amodau.

Er bod Nathan yn credu y dylai pobl herio'u hunain, ychwanegodd ei bod hi'n bwysig hefyd i fod yn "realistig ac yn ymwybodol o'ch gallu eich hunain".

"'Dach chi'n gweld fideos o bobl yn gwneud yr holl bethau 'ma. Mae'n hawdd meddwl y gallwch chi wneud yr un peth...

"Ond unwaith 'dych chi yna, does dim troi'n ôl, a dyw hi ddim mor hawdd ac y mae'n ymddangos ar eich sgrîn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol, neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.