Sut oedd Cymry yn arfer dathlu gŵyl San Steffan?

Hogiau o Drawsfynydd yn casglu celyn ac uchelwydd i'w werthu, Rhagfyr 1959
- Cyhoeddwyd
Heddiw, mae llawer ohonom yn dathlu Gŵyl San Steffan trwy wledda ar weddillion blasus ein ciniawau 'Dolig neu ruthro i'r sêls. Ond faint wyddoch chi am hanes ac arwyddocâd y diwrnod yng Nghymru?
Yma, mae'r hanesydd, Elin Tomos, yn bwrw golwg ar rai o draddodiadau Cymreig Gŵyl San Steffan.
Dal dryw i gofio sant
Mae Sant Steffan yn cael ei gofio fel y merthyr Cristnogol cyntaf. Yn ôl Actau'r Apostolion roedd Steffan yn ddiacon yn Jerwsalem.
Roedd rhai arweinwyr yn y synagogau lleol yn gwrthwynebu'r ddysgeidiaeth yr oedd Steffan yn ei lledaenu ac o ganlyniad cafodd ei labyddio (stoned) i farwolaeth tua'r flwyddyn 36 OC.
Mae 26 Rhagfyr yn cael ei ddathlu fel dygwyl San Steffan.

Rydyn ni'n cofio San Steffan ar 26 Rhagfyr
Un traddodiad hanesyddol ar Ddydd San Steffan oedd hela'r dryw bach, er mae union wreiddiau'r arfer ychydig yn annelwig.
Mae rhai yn dadlau bod y traddodiad yn tarddu o ddefodau cyn-Gristnogol wrth i drigolion y gwledydd Celtaidd – gan gynnwys Cymru – ddathlu Duw'r goleuni trwy aberthu'r dryw bach. Roedd pobl yn credu bod y weithred yn dod â lwc dda i'r rheiny a oedd yn llwyddo i'w ddal.
Mae eraill yn credu bod gan yr arfer gysylltiadau Beiblaidd hefyd gyda rhai'n dadlau bod dryw bach wedi bradychu San Steffan pan ddaliwyd ef.
Mae hela'r dryw bach yn draddodiad ar Ynys Manaw (Manaweg – Shelg yn Dreean) ac yn Iwerddon (Gwyddeleg – Lá an Dreoilín) hefyd.

Teulu yn dathlu'r Nadolig
Yng Nghymru mi'r oedd hela'r dryw bach yn arfer oedd yn digwydd trwy gydol mis Rhagfyr a dechrau mis Ionawr – gan gynnwys Gŵyl San Steffan. Yn draddodiadol, byddai dynion yn hela'r dryw ac yna yn ei osod (byw neu farw) mewn caets hefo rhubanau ac yn ei gario o dŷ i dŷ yn gofyn am fwyd, diod neu roddion am gael gweld y dryw.
Roedd yr arfer yn amrywio o ardal i ardal hefyd. Yng ngorllewin Cymru roedd y dryw yn cael ei osod mewn blwch gwydr ac roedd pobl yn rhoi arian i'r dynion i'w ryddhau.
Roedd ymweld â chartrefi â chyplau ifanc a oedd newydd briodi yn flaenoriaeth hefyd gan fod rhai yn credu bod y dryw yn arwydd o ffrwythlondeb. Daeth yr arfer yng Nghymru i ben tua diwedd y 19eg ganrif.
Ceffylau a churo â chelyn
Mae San Steffan hefyd yn cael ei gofio fel nawddsant ceffylau. Yn ystod y 18fed ganrif dechreuodd y boneddigion ymgynnull ar gyfer rasys ceffylau ac ar gyfer hela llwynogod i ddathlu Gŵyl San Steffan.

Helfa Dydd San Steffan yn Llangernyw, 1973
Arfer a oedd yn unigryw i Gymru oedd curo'r celyn neu holming. Ar fore San Steffan byddai bechgyn yr ardal yn curo'r merched â changhennau celyn ar eu coesau a'u breichiau – nes ei fod yn tynnu gwaed. Mewn rhai ardaloedd yr olaf i godi o'u gwlâu oedd yn cael eu curo.
Roedd yr arfer fod i adlewyrchu cosb San Steffan ei hun.
Daeth yr arfer i ben erbyn terfyn oes Fictoria gyda pharchusion yn credu bod traddodiadau o'r fath yn ofergoelus a phaganaidd. I lawer, doedd dim lle i arferion barbaraidd fel hyn yn y Gymru fodern.
Blwchddydd Hapus!
Yn Saesneg, cyfeirir at Ŵyl San Steffan fel Boxing Day. Mae'n debyg bod yr enw'n deillio o'r arfer o roi i elusen ar y diwrnod ar ôl y Nadolig.
Yn ystod y gwasanaethau crefyddol a gynhaliwyd ar Ddydd Nadolig, byddai pobl yn rhoi arian mewn blychau casglu a fyddai'n cael eu rhannu ymhlith y tlodion y diwrnod canlynol.

Staff Gwesty Owain Glyndŵr yng Nghorwen, 1871
Hefyd, fel arfer byddai'n rhaid i weision weithio ar Ddydd Nadolig ond yn cael diwrnod o orffwys y diwrnod canlynol. Ar Ddydd San Steffan, byddai meistri a meistresi yn rhoi bocsys o roddion, gweddillion bwyd neu arian i'w gweithwyr – sef yr arfer o dderbyn Christmas Box gan eich bos.
Yn wir, yng nghyfnodolyn Yr Haul yn 1902 cafodd ei gynnig y dylid dechrau cyfeirio at Ŵyl San Steffan fel 'Blwchddydd'!
Tra bod Gŵyl San Steffan yn parhau yn rhan annatod o ddathliadau'r Nadolig yng Nghymru – diolch byth bod rhai o'r hen draddodiadau wedi pylu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2023

- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2023
