|
Dyn o'r enw Edwart Jones oedd y llofrudd ond fe'i adwaenid yn well fel Yr Hwntw Mawr.
Yn ŵr priod ac yn dad i ddau o blant, roedd yn byw mewn tŷ o'r enw Bryn Heulog nid nepell o fan y llofruddiaeth.
Nid wyf yn mynd i fanylu llawer gan fod ei hanes wedi ymddangos o'r blaen mewn rhifyn o'r Llanw.
Ond darllenais i mewn hen bapur o ardal Meirionnydd yn ddiweddar fod ewythr i'r trancedig yn un o'r dyrfa fawr a aeth i chwilio am y llofrudd a'i fod wedi disgyn i afon lle bu bron a boddi.
Yn ogystal â llofruddio Mary Jones, roedd yr Hwntw wedi dwyn tipyn o arian ac oriawr aur. Fe'i grogwyd ef ar y Beg o Ebrill am un ar ddeg y bore gyda lliaws fawr o bobl wedi dod ynghyd i'w weld. Cariwyd ef i fryn y grocbren mewn trol.
Bu farw heb fawr o argoelion gwir edifeirwch ar ei wyneb caled a heb golli un deigryn. Galarus oedd gweld un yn mynd i fyd arall a golwg mor galed arno. Dyma bennill a ganodd hen faledwr ar yr achlysur erchyll yma:
Fe ddwed i'r hangman cyn cael dioddef Mewn modd gweddus ei fod yn maddau; Ei ewyllys oedd i ddweud ei bader,
A hyn a ffeindiwyd ynddo o fwynder.
Deallwn fod rhai o esgyrn y llofrudd wedi dod i law meddyg o Eifionydd gan mlynedd yn ddiweddarach.
Beryl Nefyn
 |