BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llanw Llyn
Iain, Tŷ Newydd, Aberdaron (Llun: Dewi Wyn) Dirwasgiad yn Llŷn
Chwefror 2009
Mae hi'n ddirwasgiad. Rydyn ni wedi clywed hynny ar bob newyddion ers misoedd bellach. Be ydy effaith y dirwasgiad yma yn Llyn?

Wedi blynyddoedd o weld prisiau tai yn codi a chodi, allan o gyrraedd ein pobl ifanc lleol, mae nhw wedi dechrau gostwng. Ydy hyn yn golygu y byddwn ni'n gallu fforddio prynu tai o hyn allan?

Os nad oes gwaith wedyn, does dim llawer o obaith. Dyma fynd i ofyn i rai fusnesau Pen Llyn am eu hymateb nhw i'r dirwasgiad yma.

Mae Iain a Wilma Roberts yn rhedeg Gwesty Tŷ Newydd Aberdaron a'r wythnos yma'n cael agoriad swyddogol y balconi newydd a'r gwelliannau i'r ystafelloedd gwely, 11 ohonynt gyda golygfa o'r mor ac i gyd yn 'en suite'.

Mae Iain yn hyderus fod y busnes yn mynd o nerth i nerth.

"Y tywydd, hwnnw sy'n mynd i ddylanwadu ar sut eith y busnes yn fama. Dwi'n eitha calonogol, mae'r bunt yn wan, a mae hynny am ddenu ymwelwyr tramor. Mae gen i Americaniaid newydd fwcio 3 noson ym mis Ebrill".

Mae'r busnes adeiladu, er yn iawn ar hyn o bryd, yn bryderus am y dyfodol. Ofni'r gwaetha mae nhw ar gyfer diwedd yr haf a'r flwyddyn nesaf. Ond beth sy'n eu poeni'n fwy na'r dirwasgiad yw'r rhwystrau sydd arnynt rhag gallu cystadlu am gontractau'r sector gyhoeddus.

Mae Cyngor Gwynedd hefyd yn cydnabod fod na waith i'w wneud i sicrhau fod mwy o gontractau'r Cyngor yn mynd i fusnesau lleol.

Mae gan y Cyngor bolisi o 'gaffael cynaliadwy' h.y. bod rhaid rhoi ystyriaeth i bethau cymdeithasol yn ogystal a phris wrth osod gwaith.

Er hynny, yn aml ae busnesau lleol yn ei chael yn anodd i ennill contractau.

Mae Llyr Hughes o Fferyllwyr Llyn yn rhedeg y fferyllfa yn Nefyn, "Dwi'n meddwl ein bod ni mewn gwell sefyllfa na'r cwmnïau mawr PLC. Mae ganddyn nhw gyfranddalwyr ac yn dibynnu ar y marchnadoedd arian a'r banciau. Dwi'n meddwl ei bod hi'n fantais bod yn gwmni bach, annibynnol, y dyddiau yma.

"Yr haf yma dwi'n amau fydd pethau'n dechrau cael effaith arnon ni. Dyna pryd mae pobl yn dod i lawr o Fanceinion a Chaer ac yn gwario y siop. Os na fydd ganddyn nhw bres i wario mi fydd hi'n tynhau arnon ninnau. Dyna pryd rydyn ni'n gallu gwneud ein harian fel arfer.

"Mae gen i un fantais, mae gynnon syniad da beth sydd o'n blaenau ac mi fydd rhaid i ni gael strategaeth i ddelio a'r sefyllfa."

Mae ffarmio'n gwneud yn well ar adega ddirwasgiad. Mae pawb yn gorfod bwyta. Er bod prisiau disl, llwch a bwydydd anifeiliaid i fyny mae prisiau defaid a biff wedi codi, mae'r ffermwyr yn edrych ymlaen at ddyddiau gwell i ddod. Mae'r grantiau Ewropeaidd hefyd yn uwch oherwydd gyfradd gyfnewid. Wrth i'r ewro gael ei newid i bunnoedd, mae 'na fwy o bunnoedd i'r ewro ac mae'r ffarmwr yn elwa o hynny.

Yr amgylchedd - dydy pobl heb bres ddim yn gallu llygru cymaint!

Does dim drwg nad ydy o'n dda i rhywun.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy