Rhieni ac Athrawon Am y safle Mae'r safle hwn yn sôn am Geltiaid Oes yr Haearn a fu'n byw yng Ngorllewin Ewrop o tua'r 5ed Ganrif CC i'r Ganrif Gyntaf OC sef y Celtiaid cynnar. Mae'r safle at ddefnydd yn yr ysgol a gartref ac wedi'i anelu'n bennaf at blant CA2 (oed 7-11), eu hathrawon a'u rhieni. Mae'r pwyslais ar hyrwyddo addysgu arbrofol i gynorthwyo'r plant i gael mynediad i fyd Celtiaid Oes yr Haearn ar lefel dealltwriaeth, yn unol â'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Byddem yn eich annog i ymweld â lleoliad Oes Haearn, yn annog chwarae rôl ac archebu bocs o wrthrychau o Amgueddfa er mwyn i'r disgyblion eu cyffwrdd a'u trafod. Pwynt pwysig na ellir ei or-bwysleisio yw cyn lleied o dystiolaeth Oes Haearn sy'n bodoli heddiw. Ysgrifenwyd y rhan helaeth o'r dystiolaeth ddogfennol gan y Rhufeiniaid - a hynny o safbwynt Rhufeinig. Mae tystiolaeth materol yn brin hefyd ac yn cynnwys yn bennaf wrthrychau metel. Mae angen i blant ddeall fod hanes yr oes yma wedi'i greu gan ddefnyddio damcaniaeth, dychymyg ac ail-ymgorfforiad. Cynnwys y safle Ffuglennol yw straeon a chymeriadau cartwn yr adran Gemau a Storiau, wrth reswm. Mae angen Flash 5 i'w ddefnyddio (gweler Help/Cymorth, ar waelod chwith y dudalen) gan fod swn yn bwysig. Bydd angen seinyddion neu glustffonau i gael y gorau ohonynt. Mae pob un o'r gweithgareddau rhyngweithiol hyn yn dechrau gydag arteffact o'r gors ac yn gorffen gyda gweithgaredd a thudalen y gellir ei hargraffu. Breuddwydio am Dderwydd yw'r unig eithriad. - Yn y ty crwn
- Adeiladu bryngaer
- Dylunio torch
- Nodyn am nyddu
- Dymuniad derwydd
- Y milwr dewraf
- Y cerbyd rhyfel
- Rheol o Rufain
- Creu cartwn Celtaidd
Mae'r Ffeil Wybodaeth yn cynnwys tua 2,000 o eiriau gyda lluniau o wrthrychau Oes yr Haearn ac adran Cysylltiadau'r We. Dyma adrannau'r Ffeil Wybodaeth: - Pwy yw'r Celtiaid?
- Y Dystiolaeth
- Cartrefi
- Crefftau
- Gwisg a Gwedd
- Rhyfelwyr
- Crefydd a Chred
- Rheol o Rufain
- Cysylltiadau
Mae'r map cliciadwy Ble yng Nghymru yn dangos y safleoedd a'r atyniadau gorau o Oes yr Haearn yng Nghymru. Mae'r adran yma yn cynnwys disgrifiadau a lluniau o lefydd i ymweld a hwy. Mae Crefft Celtaidd yn oriel o luniau wedi'u hanfon mewn gan y cyhoedd. Cyfle i chi ddanfon lluniau llonydd o'ch Celf a Chrefft i gael eu harddangos ar y wefan. Bydd hyd yn oed yr arddangosfa orau yn cael ei thynnu lawr yn y pen draw felly pam na wnewch chi bostio eich lluniau (copïau caled) fel cofnod parhaol o waith y plant? Fe ddewch o hyd i'n cyfeiriad o dan Mynegai Crefft. Be am roi cynnig ar ein Cwis cyn ac ar ôl eich prosiect i weld os yw eich gwybodaeth o Oes yr Haearn wedi gwella drwy ddefnyddio gwefan Celtiaid Oes yr Haearn. |