Pwy oedd Y Celtiaid? Rydym ni yng Nghymru yn ystyried ein hunain yn Geltiaid - ond rydym yn wahanol iawn i'r Celtiaid oedd yn byw yma yn Oes yr Haearn. Bu Celtiaid Oes yr Haearn yn byw yma cyn ac ar ôl Oes Crist. Rydym yn mynd yn ôl amser maith, maith - tua dwy fil o flynyddoedd yn ôl.Mae ein blynyddoedd wedi'u rhifo drwy ddechrau yn y flwyddyn y ganwyd Crist - bu Celtiaid Oes yr Haearn yn byw yma 750 o flynyddoedd cyn hynny. Daeth Oes yr Haearn i ben yn 43 OC (43 o flynyddoedd wedi geni Crist) pan ddaeth y Rhufeiniaid i Brydain.
Llinell amser
 Rydym yn galw'r oes yma yn 'Oes yr Haearn' oherwydd fod y Celtiaid wedi darganfod ac yn defnyddio metel newydd, sef haearn. Rydym wedi dysgu llawer am y Celtiaid drwy ddarganfod pethau wedi'u gwneud o haearn a defnyddiau eraill sydd wedi goroesi, megis plac Tal-y-Llyn.  Daethpwyd o hyd i'r plac pres yma yn 1963 ar fynydd Cadair Idris yng ngogledd Cymru, gan bobl oedd yn cael picnic. Mae'r placiau wedi'u haddurno gyda wynebau dynol. Mae gan y wynebau lygaid mawr a gwallt hir. Roedd y Celtiaid yn parchu'r pen yn fawr.
Bu'r Celtiaid yn byw ar draws y rhan fwyaf o Ewrop yn ystod Oes yr Haearn. Heddiw mae'r Celtiaid yn byw yng Nghymru, Iwerddon, Yr Alban, Ynys Manaw, Cernyw ac yn Llydaw, ger Ffrainc. Mae eu diwylliant yn parhau heddiw trwy'r defnydd o iaith, cerddoriaeth, cân a llenyddiaeth. ©AOCC
|