Am y Gerddorfa
Dewch i wybod popeth am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
| Fact title | Fact data |
|---|---|
| Cartref: |
Neuadd Hoddinott y BBC
|
| Prif Arweinydd |
Ryan Bancroft
|
| Prif Arweinydd Gwadd |
Jaime Martín
|
| Arweinydd Llawryfog |
Tadaaki Otaka CBE
|
| Cyfansoddwr Cyswllt |
Gavin Higgins
|
| Flaenwr Cerddorfa |
Lesley Hatfield
|
| Cyfarwyddwr |
Lisa Tregale
|
| Noddwr |
HRH King Charles III KG KT PC GCB
|
Cysylltu
Ebost: [email protected]
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NOW), yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae hefyd yn gwasanaethu fel llysgennad ar ran diwylliant Cymru – yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, ac yn hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei brosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Children in Need.
Wedi’I leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd.
Neuadd Hoddinott y BBC
Mae perthynas y Gerddorfa ag Alun Hoddinott ar gof a chadw yn yr hyn fu’r datblygiad pwysicaf i’r Gerddorfa yn y degawd yma: ymfudo i Neuadd Hoddinott y BBC ym mis Ionawr 2009, sydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd.
Mae’n debyg mai dyma un o’r darpariaethau ymarfer a stiwdio mwyaf soffistigedig i gerddorfa ym Mhrydain a stiwdio ymarfer a recordio ydi’r neuadd yn bennaf, ond mae hefyd yn rhoi lle i gynnal cyngherddau i gynulleidfaoedd oddeutu tri chant a hanner.
Mae’r Neuadd hefyd yn cynnwys cyfleusterau mwy soffistigedig ar gyfer gwaith allgyrch. Mae Stiwdio Grace Williams, sy’n gallu dal hyd at drigain o bobol, yn croesawu gweithdai ac ymarferion gan weithio fel canolfan gwaith allgyrch o fri’r Gerddorfa a’r Corws.
Ymuno â'r Gerddorfa
Mae cystadlu brwd am lefydd yn y gerddorfa ac mae gofyn clyweliadau a chyfnod prawf. Hysbysebir llefydd gwag yn y gerddorfa ar Musical Chairs. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddod am glyweliad. Hysbysebir llefydd gwag rheolwyr ar wefan swyddi'r BBC.
Am ragor o wybodaeth ynghylch clyweliadau a phrofion anfonwch e-bost i [email protected]
