Reform wedi gwrthod ymgeiswyr yn sgil sylwadau ar wefannau cymdeithasol

Yn ôl Jason O'Connell, mae prosesau gwirio ymgeiswyr Reform bellach yn "drwyadl a chadarn"
- Cyhoeddwyd
Mae Reform UK wedi gwrthod "pobl wirioneddol dda" rhag bod yn ymgeiswyr oherwydd sylwadau hanesyddol ar y cyfryngau cymdeithasol, meddai un o gynghorwyr y blaid.
Mae'r blaid wedi bod yn gwirio ymgeiswyr cyn etholiad y Senedd fis Mai ond hyd yma tydyn nhw heb gyhoeddi pwy fydd yn sefyll, eu polisïau na chwaith eu harweinydd.
Fis Ionawr dywedodd Nigel Farage fod proses wirio ymgeiswyr y blaid wedi bod yn "wael" yn y gorffennol, ond mynnodd na fyddai hynny'n wir yn y dyfodol.
Yn siarad ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, dywedodd y cynghorydd Jason O'Connell fod y broses wedi ei "gywiro" a'i fod bellach yn "drwyadl a chadarn".
Millar 'ddim yn disgwyl colli mwy o ASau Ceidwadol i Reform'
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Diswyddo'r Ceidwadwr James Evans AS am ystyried ymuno â Reform
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
Ymgeisydd Reform 'wedi derbyn dwsinau o fygythiadau i'w fywyd'
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2025
Dywedodd Mr O'Connell fod y blaid wedi gwneud "popeth o fewn eu gallu" drwy "bori drwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol a gwneud profion cefndir".
"Dwi wedi bod drwy'r broses fy hun ac mae'n gadarn iawn, mae'n drwyadl iawn," meddai.
"Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi bod o gwmpas bellach am dros 20 mlynedd, mae 'na lawer o hanes yna."
"Ry'n ni wedi gwrthod rhai pobl wirioneddol dda, a hynny rhag ofn eu bod nhw wedi dweud rhywbeth di-hid 10 neu 20 mlynedd yn ôl. Ry'n wedi colli'r gallu i'w cael nhw oherwydd bod cofnod digidol yn parhau am byth."
Yn 2024 cafodd y blaid wared â 12 o'u hymgeiswyr ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar ôl i sylwadau hanesyddol ddod i'r fei.
Cyhoeddi arweinydd Cymreig 'yn fuan iawn'
Nid yw Mr O'Connell wedi ei gadarnhau fel ymgeisydd, ond ar ôl cyflwyno Darllediad Gwleidyddol swyddogol Reform UK yr wythnos hon, mae nifer yn disgwyl iddo fod yn arweinydd ar y blaid yng Nghymru.
Wrth ymateb i'r sïon hynny, dywedodd wrth raglen BBC Politics Wales ei bod hi'n braf clywed hynny, ond nad oedd wedi cael unrhyw sgyrsiau gydag unrhyw un o fewn y blaid ynglŷn â hynny.
Gofynnwyd iddo a oedd o'n barod am y swydd, dywedodd: "Dwi'n meddwl fy mod i, ond tydw i heb gael yr alwad, tydw i heb siarad gydag unrhyw un yn y blaid felly bydd rhaid disgwyl a gweld."
Ddydd Gwener dywedodd Mr O'Connell wrth raglen Today BBC Radio 4 y bydd y blaid yn cyhoeddi arweinydd Cymreig "yn fuan iawn" a'u bod yn disgwyl cyhoeddiad "gyda hyn".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.