Hefin David AS wedi dod â'i fywyd ei hun i ben - cwest
![Hefin David [16/07/24]](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/0644/live/5374ba40-f546-11f0-b385-5f48925de19a.jpg)
Bu Hefin David yn cynrychioli Caerffili yn y Senedd ers 2016
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth y gwleidydd Llafur Cymru, Hefin David AS, ddod â'i fywyd ei hun i ben, mae crwner wedi cofnodi.
Cafodd Mr David, 47 a oedd yn aelod yn Senedd Cymru dros Gaerffili ers 2016, ei ganfod yn farw yn ei gartref ar 12 Awst y llynedd.
Dywedodd y crwner fod Mr David wedi "dod â'i fywyd ei hun i ben" yn ei gartref.
Clywodd gwrandawiad blaenorol yn Llys Crwner Gwent fod Mr David wedi cael ei adnabod yn ffurfiol gan ei chwaer.
Byddai wedi troi'n 48 y diwrnod canlynol.
Cofnododd y Crwner Caroline Saunders mai hunanladdiad oedd achos ei farwolaeth, gyda'r achos meddygol wedi ei gofnodi fel crogi.
Cafodd Mr David ei ddisgrifio fel dyn "gwirioneddol nodedig" gan Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, yn y Senedd yn dilyn ei farwolaeth.
Rhoddodd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer deyrnged i Mr David hefyd, gan ei ddisgrifio fel "llais pwerus dros bobl Cymru".
Os ydy cynnwys yr erthygl wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2025

- Cyhoeddwyd1 Medi 2025

- Cyhoeddwyd26 Awst 2025
