Disgwyl i Wylfa fod yn safle ar gyfer gorsaf ynni niwclear newydd

Daeth y gwaith o gynhyrchu ynni i ben yn Wylfa nôl yn 2015
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Wylfa ar Ynys Môn gael ei enwi yn safle ar gyfer gorsaf ynni niwclear newydd, gyda chadarnhad swyddogol i ddod dydd Iau.
Mae BBC Cymru yn deall y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi eu sêl bendith i adweithydd modiwlar bach ar y safle.
Mae gweinidogion wedi bod yn ystyried a ddylid dewis Ynys Môn neu Oldbury yn Sir Gaerloyw ar ôl dod i gytundeb gwerth £2.5bn gyda Rolls Royce i'w hadeiladu yn gynharach eleni.
Y gobaith yw y bydd yr orsaf yn darparu hyd at 900 o swyddi llawn amser, a miloedd yn ychwanegol yn ystod y gwaith adeiladu.
'Oes aur niwclear'
Dyw hi ddim yn glir faint o adweithyddion fydd yn cael eu hadeiladu, ond mae yna le ar y safle ar gyfer mwy nag un.
Mae adran ynni, diogelwch a sero net y DU wedi derbyn cais am sylw.
Mae'r adran yn flaenorol wedi addo "oes aur niwclear" a allai "warchod cyllid teuluoedd, hybu diogelwch a chreu miloedd o swyddi".
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud na fydden nhw'n gwneud sylw ond maen nhw wedi dweud yn y gorffennol bod "ynni niwclear yn rhan o'n cynllun i symud i ffwrdd o danwydd ffosil, gan ddefnyddio adweithyddion modiwlar mawr a bach".
"Mae Wylfa mewn sefyllfa arbennig o dda i ddenu buddsoddiad mewn gorsafoedd niwclear newydd oherwydd ei gwaddol niwclear a'i gweithlu lleol medrus iawn.
"Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod potensial Cymru yn y sector hwn yn cael ei wireddu'n llawn."
Mae adweithyddion modiwlar bach yn cael eu cynhyrchu mewn ffatri mewn modiwlau cyn cael eu gosod ar y safle ac maen nhw'n gallu cynhyrchu digon o ynni i bweru tua miliwn o gartrefi.
Mae'r stori yma newydd dorri - rydym yn ychwanegu ati a bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn fuan. Llwythwch y dudalen eto ar gyfer y fersiwn ddiweddaraf.
Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap BBC Cymru Fyw ar Google Play, dolen allanol neu App Store, dolen allanol.