Iwan Bala a'i ddiffiniad o 'gelf go-iawn'

- Cyhoeddwyd
'Yr Hen Ddweud o'r Newydd Yw', dyna deitl arddangosfa o waith yr arlunydd Iwan Bala sydd i'w weld yn Storiel, Bangor ar hyn o bryd.
Geiriau y Prifardd Gerallt Lloyd Owen yw y rhain, oedd wedi'i fagu yn Y Sarnau ger y Bala, yr un pentref ag Iwan.
Mae Iwan Bala ei hun yn defnyddio barddoniaeth yn sawl un o'i weithiau celf, gydag sawl un yn amlwg yn yr arddangosfa hon.
Mae dros 30 o waith newydd i'w weld, rhai wedi'i benthyg gan y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru. Efallai bydd rhai darnau o'r gwaith eisoes yn gyfarwydd i'r rhai craff sy'n adnabod gwaith Iwan Bala, gan iddo baentio dros hen luniau.
Mewn sgwrs gyda Ffion Dafis, cawn gipolwg ar y syniadau sydd y tu ôl i waith Iwan Bala, a'r rheswm pam ei fod yn llithro i mewn ac allan o fyd cwbwl ddychmygol sy'n amlygu ei hun yn ei waith.
Iwan Bala yn sôn am ei waith celf
Wrth gyfeirio at ei waith yn yr arddangosfa, fe eglurodd sut roedd rhai o'r darluniau oedd i'w weld ar y waliau yn waith diweddar oedd wedi'i baentio dros waith oedd yn bodoli ar y cynfas ers degawdau.
"Ychydig iawn o'r gwreiddiol sydd ar ôl. Mae 'na rhai geiriau dwi wedi eu cadw, ond mae rhai o'r geiriau wedi cael eu gorchuddio ac mae pethau eraill wedi cael eu hadeiladu ar eu pen."
Mae dweud a chyfleu neges yn bwysig ac yn amlwg iawn yng ngwaith Iwan Bala, ac mae'r ddawn yma wedi bod ganddo ers yn ifanc iawn.
Eglurodd wrth Ffion Dafis ble ddechreuodd dynnu lluniau tra'n blentyn ym mhentref Gwyddelwern ar ôl symud o'r Sarnau.
"Roedd fy nhad yn brifathro ac weithiau roedd hynny'n gallu bod yn annifyr i fi os oedd plant eraill yn cael eu cosbi yn yr ysgol, felly ro'n i'n treulio lot o'r amser ar fy mhen fy hun yn fy lloft yn creu lluniau o fyd dychmygol gan amlaf.
"Ro'n i'n hapus iawn yn mynd i fewn i'r byd dychmygol yma efo jest beiro a phapur brown yn gwneud lluniau o bob math o bethau, ac yn araf deg creu rhyw wlad a gwleidyddiaeth a hanes a phob math o bethau yn y wlad yma.
"Mae nhw dal yn fy mhen i, ac mae'n debyg iawn i Annwn a dwi'n gallu slipio i Annwn ac yn ôl i'r byd go iawn a dod â syniadau o Annwn fewn i'r byd go iawn ac ati.
"Mae'r delweddau yma i gyd yn dod o Annwn, nid o'r byd go iawn ond maen nhw'n sôn am bethau o'r byd go iawn," meddai.

Roedd Iwan Bala yn cael ei holi gan Ffion Dafis
Un elfen bwysig arall o'i waith yw cyfleu negeseuon am yr hyn sy'n digwydd yn y byd. Mae hyn, ym marn Iwan, yn rhan bwysig o ddiffinio gwaith celf.
"Yn ifanc 'nes i ddechrau cael diddordeb mewn gwleidyddiaeth Cymru, mewn cenedlaetholdeb.
"Pan es i i'r Brifysgol i Aberystwyth ac aros yn neuadd Pantycelyn a bod yn rhan o'r cynnwrf yn y brotest a thrafod a brwydro dros hawliau iaith a hyn a llall, 'nes i ddechrau rhoi rheina fewn i'r gwaith.
"Ro'n i'n teimlo mae celf sydd yn olygfa allan o ffenest – mynyddoedd a phethe yn wych ac yn dechnegol mae rhai artistiaid yn anhygoel, ond i mi dio ddim yn deud ddim byd, tydi o ddim yn gelf go-iawn i fi os nad ydio'n deud rhywbeth.
"Dwi'n meddwl fod 'na rôl mewn celf i ddeud rhywbeth yn yr un ffordd mae barddoniaeth yn deud rhywbeth ac efallai fod y cyswllt agos sydd gen i hefo beirdd, fel oedd gen i efo Iwan Llwyd a rŵan efo Twm Morys yn gwneud hynny yn fwy naturiol i fi mewn ffordd."

Casgliad o luniau sy'n rhan o'r arddangosfa
Un ffordd y mae Iwan yn diffinio ei waith yw fel darluniau a nid paentiadau.
"I fi, mae rhywun sy'n paentio yn llwyr ymdoddi fewn i'r paent, sut mae'r paent yn gweithio ar wyneb y canfas neu'r papur, rhywun fel Siani Rhys James neu hyd yn oed Kyffin Williams, paent yn drwchus.
"Be' dwi'n neud - dwi'n defnyddio golosg a phastel, unrhyw beth sydd wrth law mewn ffordd i wneud darlun. Dwi ddim yn meddwl amdanyn nhw fel paentiadau. Marciau ydyn nhw - gwneud marciau ydyn nhw, nid paentio," meddai.
Erbyn heddiw, mae Iwan yn mwynhau gweithio fin nos ac yn gwneud y rhan fwyaf o'i waith y tu allan o'i stiwdio, a hynny yn ystafell fyw ei gartref.
"Yn yr ystafell ganol dwi'n gweithio, oherwydd mod i'n byw ar fy mhen fy hun. Dwi'n gallu gwneud hynny, neu cyn hynny o'n i'n mynd lawr i'r stiwdio pan oedd rhywun efo fi.
"Mae'n haws i mi achos dwi'n licio byw efo'r gwaith a dwi'n licio gweithio'n hwyr yn y nos.
"Dwi'n gallu neud hynne jest drw' roi y papur ar y board, pwyso fo ar sedd a dwi'n gallu eistedd ar y soffa, mae'r cyfrifiadur gen i, mae'r teledu ymlaen a dwi'n edrych ar y tri peth a dwi'n sylweddoli rhywbeth ar y llun.
"Ar y bwrdd wedyn mae llwyth o golosg ac inc a phob math o bethe yn barod a dwi jest yn gallu twtcho, weithiau dwi'n gadael yr inc redeg ychydig bach achos mae hynny wedyn yn creu rhyw fywyd yn y llun. Mae hyn yn mynd mlaen rhyw dri i bedwar diwrnod.
"Weithie dwi'n mynd â fo i'r ystafell ffrynt achos mae'r golau'n wahanol yno ac mae ychydig mwy o bellter a dwi'n gweld pethe gwahanol gallwn i neud. Yn yr ystafell ffrynt dwi'n edrych arnyn nhw ddiwethaf cyn cymryd y ffotograff a deud oce, ma hwn yn barod.
"Mae'n rhaid i mi fod o'u cwmpas nhw neu nhw o fy nghwmpas i, dyna'r rheswm mae'n gweithio felne," meddai.

Darn o gelf sy'n rhan o'r arddangosfa yn Storiel
Roedd Iwan yn sydyn i bwysleisio'r her o ffeindio oriel sy'n fodlon dangos gwaith artist a bod hynny'n mynd yn anoddach fyth erbyn heddiw.
"Mae'n anodd i pob artist ffeindio oriel. Lot o fyfyrwyr dwi wedi'i dysgu, maen nhw'n gadael y coleg a does 'na ddim un ffordd iddyn nhw fynd yn eu blaen, does na neb yn cymryd diddordeb yn eu gwaith nhw. Yn y diwedd maen nhw'n rhoi'r gorau iddi.
"Mae rhai, fel Meinir Mathias yn gwneud yn dda iawn, ac mae ei gwaith hi yn apelio at gynulleidfa Gymraeg ac yn ehangach hefyd.
"Dwi'n meddwl fy mod i'n lwcus yn hynny o beth achos fod gen i gynulleidfa. O'n i wedi gallu dechre gwerthu yn gynnar iawn. Nath hynny fy helpu i a rhoi sylfaen i mi ddangos mwy," meddai.
Mae'r oriel o waith Iwan Bala i'w gweld yn Storiel, Bangor nes 24 Rhagfyr 2025.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 Hydref

- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2024
