Erasmus: Croesawu ailymuno â chynllun myfyrwyr 'hynod gadarnhaol'

Mae cynllun Erasmus yn galluogi i fyfyrwyr astudio, hyfforddi, neu wirfoddoli mewn gwledydd Ewropeaidd eraill am hyd at flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru a Phrifysgolion Cymru wedi croesawu penderfyniad y Deyrnas Unedig [DU] i ailymuno hefo cynllun Erasmus.
Mae'r cynllun yn galluogi i fyfyrwyr astudio, hyfforddi, neu wirfoddoli mewn gwledydd Ewropeaidd eraill am hyd at flwyddyn, heb dalu unrhyw ffioedd ychwanegol.
Mae hefyd yn agored i bobl mewn hyfforddiant galwedigaethol, prentisiaid, neu bobl sy'n ailhyfforddi trwy goleg neu ysgol.
Doedd y DU heb fod yn rhan ohono ers gadael fel rhan o Brexit chwe blynedd yn ôl.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgolion Cymru bod hwn "yn ddatblygiad hynod gadarnhaol a fydd yn cefnogi symudedd myfyrwyr a staff".
Yn ôl Llywodraeth Cymru, "mae cydweithio rhyngwladol ym maes addysg yn bwysicach nag erioed, ac edrychwn ymlaen at weld y manteision y bydd y cyhoeddiad hwn yn eu dwyn i Gymru".

Mae'r penderfyniad yn "fuddugoliaeth enfawr" i bobl ifanc, medd Nick Thomas-Symonds
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru bod estyniad i gynllun Taith hefyd tan 2028.
Cafodd y cynllun ei sefydlu yn 2022 i ariannu cyfleoedd i bobl mewn addysg yng Nghymru i fynd dramor.
Cafodd ei sefydlu ar ôl i Lywodraeth y DU dynnu'n ôl o gynllun Erasmus+.
Erasmus+ ydy'r fersiwn estynedig, gyfredol, o'r cynllun Erasmus gwreiddiol.
Bu pryder yn y gorffennol y gallai miloedd o bobl o gefndiroedd difreintiedig fod ar eu colled pan fyddai'r cynllun yn dod i ben.
"Ein ffocws yw cyflwyno'r rhaglen Taith bresennol a sicrhau bod dysgwyr yn parhau i gael y cyfleoedd rhyngwladol y maent yn eu haeddu.
"Byddwn yn ystyried goblygiadau ailymuno âg Erasmus+ yn ofalus," meddai Llywodraeth Cymru.
'Cymru wedi cymryd mesurau ei hun'
Dywedodd y prifysgolion fod Cymru "wedi cymryd mesurau ei hun" pan nad oedd y DU yn cymryd rhan yng nghynllun Erasmus, trwy gynllun Taith.
"Edrychwn ymlaen at adeiladu ar ein perthnasoedd cryf â'n partneriaid Ewropeaidd i sicrhau y gall myfyrwyr a staff prifysgol elwa o'r cyfleoedd trawsnewidiol sydd gan Erasmus i'w gynnig."
Galwodd y gweinidog sydd yng ngofal cysylltiadau â'r Undeb Ewropeaidd i'r DU, Nick Thomas-Symonds, y penderfyniad yn "fuddugoliaeth enfawr" i bobl ifanc.
Dywedodd y bydd yn sicrhau fod gan bawb y cyfle i astudio a hyfforddi dramor.
"Mae hyn yn ymwneud â mwy na theithio yn unig, mae'n ymwneud â sgiliau'r dyfodol, llwyddiant academaidd a rhoi mynediad i'r genhedlaeth nesaf at y cyfleoedd gorau posibl," ychwanegodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.