Beth yw rôl y celyn a'r uchelwydd yn ein traddodiad ni?

celyn ac uchelwyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

"Y gelynnen werdd a'r uchelwydd, ei grawn yn goch, ei grawn yn wyn..." ganodd Meic Stevens yn ei gân, Noson Oer Nadolig.

Mae'r planhigion i'w gweld dros y lle yr adeg yma o'r flwyddyn. Bethan Wyn Jones, y botanegydd, fu'n trafod pwysigrwydd y celyn a'r uchelwydd yn ein traddodiad, a rhai o'r ofergoelion mae rhai dal yn eu credu amdanyn nhw.

Celyn

CelynFfynhonnell y llun, Getty Images

Chwedloniaeth

Ym mytholeg Sgandinafia, eiddo Thor oedd y celyn, oedd â chysylltiad gyda mellt. Roedd pobl Nors a'r Celtiaid yn plannu coeden gelyn wrth ymyl y tŷ, er mwyn i hwnnw dynnu'r mellt a diogelu'r bobl.

Roedd y Celtiaid yn credu mai brenin y celyn oedd yn arglwyddiaethu dros y gaeaf a marwolaeth, ac roedden nhw'n edrych ymlaen at droiad y rhod, pan oedd brenin y dderwen yn arglwyddiaethu dros yr haf a bywyd.

Roedd y Rhufeiniaid yn dod â chelyn i mewn i'r tŷ. Roedden nhw'n dathlu gŵyl Saturnalia ar 19 Rhagfyr, i'r Duw Sadwrn. Roedden nhw'n cyfnewid anrhegion, a darnau bach o gelyn coch efo'r anrhegion.

plant yn cario celyn ac uchelwyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Ofergoeliaeth

Roedd yna gred os fasech chi'n lapio naw deilen celyn mewn hances boced ar Noswyl Nadolig, a'i rhoi hi o dan eich cobennydd, y basech chi'n breuddwydio am y sawl roeddech chi am ei briodi.

Mae 'na gred ei bod hi'n anlwcus i ddod â chelyn i mewn i'r tŷ, heblaw am adeg y Nadolig. Pobl eraill yn meddwl ddylech chi byth dorri coeden gelyn oni bai ei bod hi wedi marw; os fasech chi'n gwneud, roedd anlwc yn sicr o ddilyn.

Os oeddech chi'n dod â darn o gelyn i'r tŷ, roedd hynny'n gwneud y cartref yn lle da i dylwyth teg chwarae dros y Nadolig.

"Pren canmolus gweddus gwiw, a'i enw yw y Gelynnen."

Bethan Wyn Jones yn rhannu ofergoelion am y gelynnen ar BBC Radio Cymru

Mae 'na gred hefyd 'na ddylech chi gadw celyn ar ôl yr Ystwyll; fydda i'n tynnu popeth i lawr erbyn 6 Ionawr.

Os oes darnau o gelyn wedi eu defnyddio i addurno eglwys, pan ydych chi'n tynnu rheiny i lawr, dylech rannu'r dail rhwng yr aelodau, a bod hynny'n dod â lwc dda dros y flwyddyn i ddod.

Mae rhai yn cadw sbrigyn ohono tan dydd Mawrth Ynyd, ac yn defnyddio hwnnw i wneud y tân i wneud crempog.

Dim ond ar y goeden fenywaidd mae blodau sy'n troi'n aeron. Roedd 'na hen draddodiad yn yr Almaen, os oedd 'na dorch o gelyn gwyrdd, dyn fyddai'n arglwyddiaethu yn y tŷ dros y flwyddyn.

Ond os oedd 'na aeron coch arni, y wraig fyddai'r bos!

Uchelwydd

uchelwyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Defnydd

Mae o'n tyfu'n uchel ar ganghennau coed eraill, ac yn defnyddio'r coed i gael dŵr a mwynau; mae'n ofnadwy o hawdd i'w 'nabod, fel pêl-droed ar dop coeden.

Mae'r uchelwydd wedi cael ei ddefnyddio i drin trawiadau epileptig, i gael gwared ar dyfiant canser o bob math, i gadw gwrachod draw ac i warchod cnwd y coedd roedd yn tyfu arno, a gan ei fod yn aml yn tyfu ar goed afalau, roedd hynny'n bwysig iawn.

Heddiw, mae'n cael ei ddefnyddio fel moddion cefnogol i drin canser, a thrin pwysau gwaed uchel a chryd-cymalau – ond fod angen bod yn ofalus am ei fod yn wenwynig.

Ac ers talwn roedd o hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddod o hyd i drysor!

Diolch i'r Derwyddon, tyfodd y gred fod uchelwydd oedd wedi tyfu ar dderwen yn well ac yn fwy pwerus nag un wedi tyfu ar unrhyw goeden arall, ac roedd yn cael ei ystyried yn sanctaidd.

Tom JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Rhamant

Y peth pwysicaf; ei fod yn blanhigyn affrodisiaidd ac yn symbol o ffrwythlondeb. Byddai merched, os oedden nhw'n dymuno cael plant, yn rhoi darn ohono ar eu gwast neu ar eu garddwrn.

Mae'r arfer o gael cusan o dan yr uchelwydd yn mynd yn ôl i fytholeg Norwy. Mi gafodd y Dduwies Frigg fab o'r enw Baldur. Roedd hi eisiau gwneud yn siŵr na fyddai'r un planhigyn yn ei frifo, ond anghofiodd hi am yr uchelwydd, ac aeth Loki ati i ladd Baldur gyda gwaywffon o bren yr uchelwydd.

Llwyddodd y Duwiau i ddwyn Baldur o farw yn fyw, a penderfynodd Frigg y byddai'r uchelwydd yn dwyn cariad yn hytrach na marwolaeth i'r byd. Yn ôl dymuniad y Dduwies, dyma'r bechgyn a merched yn mynd ati i gusanu o dan yr uchelwydd.

Yn ôl traddodiad, mae merch sy'n gwrthod cusan o dan yr uchelwydd yn dod yn hen ferch, ond mae llanc i fod i dynnu un o'r aeron am bob merch mae'n ei chusanu, ac ar ôl tynnu pob un, rhoi'r gorau iddi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb