Tafodiaith y Rhos
top
Edrych ar dafodiaith hynod pentref Rhosllannerchrugog.
Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn Ionawr 2002 ar gyfer papur bro Nene, a ymddangosodd ar wefan BBC Lleol y gogledd ddwyrian.
Mae cyfran helaeth o boblogaeth y Rhos wedi newid i raddau ers dyddie fy mhlentyndod ond mae'r iaith yn dal yr un fath. Rwy'n cofio merch ifanc o'r BBC yn dod i'n tŷ ni rai blynyddoedd yn ôl bellach i recordio sgwrs ar rai agweddau o arbenigrwydd iaith y Rhos. Cedwais nodiadau o'r sgwrs honno ac wedi cryn chwilio fe ddes o hyd iddyn nhw mewn ffeil yn y ty 'ma. Mae'n siwr bod y dywediadau yn hollol gyfarwydd i ddarllenwyr hŷn Nene ond hwyrach bod rhywbeth newydd ynddyn nhw i'r genhedlaeth iau sy'n darllen Nene o fis i fis. Mi gewch chi, er enghraifft, ddywediadau hollol wahanol i ardaloedd eraill yng Nghymru.
Dyma i chi rai ohonyn nhw: fel pontecel: - yn flêr; pethe ar draws ei gilydd rywsut rywsut. 'Mi roedd y tŷ 'ma fel pontecel!' Fe ddaw'r ymadrodd o un o strydoedd Wrecsam, sef Turtle Street. Llygriad o Pont Turtle ar y stryd honno ydy pontecel a blynyddoedd yn ôl roedd nifer o sipsiwn yn gwersylla ene efo'r holl flerwch sy'n perthyn i dylwyth y sipsiwn.
strôc: Yn ôl y geiriadur, term meddygol ydy hwn sef math o afiechyd sy'n taro'n sydyn a dirybudd. Ond ystyr hollol wahanol sydd iddo fo yn y Rhos. Dyma i chi frawddeg i ddangos hynny. 'Tydw i heb neud strôc o waith yn y ty 'ma heddiw.' Hynny ydy, dim gwaith o gwbwl.
sbonclo: gwastraffu arian fel petai fory ddim yn bod. 'Mi gath o dipyn o bres yn 'wyllys i nain a maw 'di sbonclo'r cwbwl!'
cer i Wem: ymadrodd a glywais i gan Mam pan fyddwn i'n dwad adre ac yn deud hanner celwydd wrthi hi. Bryd hynny wyddwn i ddim yn y byd lle yr oedd Wem na sawl milltir oedd o o'r Rhos. Ond wedi cael car a gweld nad oedd Wem ddim mwy nac ugain milltir o'r Rhos fe es i ar daith yno i gael gweld be oedd be. Yn y llyfrgell mi ges i hyd i lyfryn ac roedd hanes Wem ynddo gan gynnwys y pennill diddorol canlynol:
A new church and an old steeple,
A drunken parson and wicked people.Mae'r wicked people yn awgrymu o bosib mai pobol gelwyddog oedd yn byw yno ac felly roedd Mam am i mi ymuno â nhw.
osment: rhagolwg, fel yn y frawddeg, 'ma osment am gnwd da o fale leni.'
cesnach: yn yr iaith fain 'fluff'. 'Cofia frwshio'r cesnach ne oddi ar dy gôt fawr cyn mynd allan.'
moldio: - byseddu rhywbeth. 'Paid â'i foldio fo ne mi fyddi di'n siwr o'i dorri.'
bradgyfarfod: hynny ydy, teimlo'n bethma ne ddim cweit yn iawn ac eto ddim cweit yn sâl. '0! ma gynna i'r bradgyfarfod y bore ma.' Mae hwn yn enghraifft o iaith digon llenyddol mewn tafodiaith ac fe'i ceir yng ngweithiau Theophilus Evans a Meddygon Myddfai, er enghraifft. gynjar a gythrish: Does gen i ddim syniad o ble y daw'r ddau air yma ond fe'u defnyddir fel arfer ar ddechrau brawddeg i fynegi syndod.
sbachu: Cael gafael ar rywbeth cyn i neb arall gael gafael ynddo fo. 'Sbacha fo rwan ne mi fydd o wedi mynd.'
mynaru: drysu rhywun drwy gadw sŵn. 'Cer â'r plant 'ma allan ne mi fyddan nhw wedi mynaru i. Byddaru ydy'r ffurf gywir wrth gwrs.
paste grochon: stew, lobsgows. 'Be sy i ginio heddiw?' 'Paste grochon'. Ond pam paste tybed?
cythgam: un go fawr, 'Mi ges i gythgam o godwm pan syrthies i oddi ar yr ysgol ne ddoe.
wicsen: bunsen; teisen fach, 'Gymri di wicsen efo dy de?'
llardie: yn racs neu'n anobeithio. 'Mi roedd y tîm ffwtbol yn lardie yn yr hanner cynta.' O ran hynny mae tîm Wrecsam yn llardie ymhob hanner!
yn ddrych: A mess 'Rwyt ti'n edrach yn ddrych yn yr hen glos ne. Cer i newid o ar unweth!' Un clyfar ydy hwn gan mai ystyr drych wrth gwrs ydy mirror.
gader goets: Dim ond pram ydi hwn!
corleg: dyma i chi dwlsyn sydd wedi diflannu ers dyddie'r tân glo. Roedd yn cael ei ddefnyddio i racio o dan y lle tân mewn grât tân-glo.
niclen / nicled: daw hwn o'r gair Saesneg knuckle. 'Bydda'n ddistaw ne mi fydda i'n rhoi nicled i ti yn ochor dy glust.'
chwislen: chwilen ddu.
hen daid y bodo: Rhywun sy'n gwybod popeth a thipyn bach mwy. 'Paid â g'rando arno fo, yr hen daid y bodo.' Mae rhywbeth diddorol yma. Bodo (ac nid dodo fel y byddwn ni'n ei ddeud yn y Rhos) ydy modryb. Ond beth ydy'r cysylltiad rhwng taid a modryb tybed? Mae ystyr arall i bodo hefyd sef 'pawb'.
reit jyhoi: yn llawn asbri neu full o leiaf fel y dywed y Sais.
strag: daw hwn o fyd y colomennod (clomod i ni wrth gwrs). Strag oedd colomen oedd wedi mynd ar goll. Daw o'r Saesneg 'straggler' mae'n siwr.
tagu: pesychu. 'Mi roedd o wrthi'n tagu trw'r nos neithiwr.'
mwydro: drysu. 'Mi roeddwn i wedi mwydro efo swn yr hen ffair ne.'
noryn: un oer; person oeraidd anodd gwneud efo fo. 'Tydi o'n gneud dim efo ni. Hen noryn ydi o.'
strelio: to rinse out. 'Cofia di strelio'r tebot ne'n iawn cyn gneud paned arall yno fo.'
pwdin moch: black pudding. Pwdin gwaed ydy hwn ymhob man arall.
mor haden: bychan, bychan. 'Sbia ar ddwylo'r plentyn ne. Dydyn nhw mor haden.' Y gair hedyn (seed) ydy cnewyllyn yr ymadrodd hwn.
paen: Darn o ffenestr. 'Ma ne un paen wedi torri yn y ffenest ffrynt.' Benthyg o'r Saesneg pane ydy hwn gan mai'r gair Cymraeg cywir ydy chwarel. Mae'r gair chwarel felly'n golygu tri pheth, sef cloddfa, saeth bwa croes a darn o wydr ffenestr.
sbawd: ysgwydd dafad neu ddarn mawr o gig. 'Mi gawn ni hanner sbawd i ginio dydd Sul.'
sgoden: llygoden. 'Mi weles i sgoden yn rhedeg o dan y bwr ne!'
golwg mawr arno/arni: roedd ne olwg mawr arno (hynny ydy, roedd o'n flêr neu'n fudr) yn mynd i'r capel.'
gneud wyllys: Dyma i chi un diddorol. 'Ble ma John?' 'Ma 'di mynd i neud i wyllys!', hynny ydy, mae wedi mynd i'r toiled (i weddill pobol Cymru; i'r closet y byddwn ni'n mynd yn y Rhos - a'r Poncie). Wedi'r cyfan does dim sicrwydd pam fod y gair ewyllys yn dod i mewn i'r busnes - bod yn hir yn gwneud rhywbeth efallai.
cwat: Dyma fyddwn ni'n ei wisgo yn y Rhos pan fydd hi'n oer neu'n glowio. 'Rho dy gwat arnat mae'n rhewi tu allan.'
nene, dene ac ene: Does dim angen esbonio'r rhain nac oes?
rodne: Rhywun sydd ddim yn hoffi gwaith; lazybones yn yr iaith fain. 'Does ar y rodne diog ddim ishio gwaith.' mae'n rhaid bod rhyw berson unwaith o'r enw Rodney nad oedd yn hoffi gweithio.
pycsen/pycs: chwain ydy ystyr hwn. 'Mi roedden nhw fel pycs o gwmpas y fan ma' echdoe.'
bothio: Deud y drefn yn hallt. 'Mi roedd John yn bothio'r plant am daflu cerrig at y drws ffrynt'. Mae dau ystyr i'r gair both yn y Gymraeg sef potel a chanol tarian. Nid yw'r un ohonynt yn gwneud synnwyr yma. Mae'r gair bothe yn cael ei ddefnyddio yn y Rhos hefyd, er enghraifft, 'Mi aeth y nodwydd i mewn at y bothe.'
llysmer: faint yn yr iaith fain. Amrywiad ar y ffurf lenyddol llesmair ydy hwn wrth gwrs.
golchion: bwyd moch. 'Cer â'r golchion ne i'r moch.' Ystyr llythrennol golchion ydy 'dwr a sebon ynddo fo' hynny ydy, dŵr wedi ei ddefnyddio i olchi slops.
howt: ffos. 'Mi roedd Wil wedi bod yn y dafarn trw'r nos ac fe'i cafwyd yn gorwedd yn yr howt.'
criwlyn: tipyn bach. 'Rho griwlyn o fwstard ar yr ham yma.'
dim llawer o gop: Dim gwerth lawer. 'Tafla'r hen beth ne i ffwr. Diw'm llawer o gop i neb.'
tws-lli: llwch llif, sef y llwch sy'n cael ei greu wrth i chi lifio darn o bren. Llygriad o'r gair Saesneg dust ydy tws.
wedi gneidi: wrth ei fodd. 'Mi roedd o wedi gneidi efo'r presant gafodd o ar 'i benblwydd. Mae'n dod o wedi ei gwneud hi ac mae'n cyfateb i'r Saesneg made up (hynny ydy, in his element).
symia: 'Symia hwn maw fel darn o blwm.' Gwir ystyr hwn yn Saesneg ydy to understand.
naci: 'Maw'n un reit naci efo pig a rhaw.'
carp llaw: cerpyn i sychu'r llawr. 'Dw'i 'di colli llefrith ar y carped ma. 'Stynna'r carp llawr ne i'w sychu fo.'
câi: gwrthod. 'Maw'n câi'n lân â mynd i'r ysgol.' Mi ddaw o'r ffurf 'nacâu.'
gwynllyd: o gwenwynllyd. Cybyddlyd ydy'r ystyr yn y Rhos, 'Dew ma' nacw acw'n un gwynllyd. Chei di mo'r baw dan 'i winedd o.'
y gwilie: Lluosog y gair gwyl ydy hwn ac fel yr hen Gymry ers talwm dyma fel y byddwn ni'n cyfeirio at y Nadolig yn y Rhos.


