Tafodiaith y gogledd orllewin

top
Ynys Môn

Dyma eiriau tafodieithol o wahanol ardaloedd yn y gogledd orllewin. Cyfrannwyd y sylwadau isod i wefan BBC Lleol y gogledd orllewin rhwng 2004 a 2008.

Olwen Evans o Walchmai yn wreiddiol
Hen jadan - am ferch neu ddynas gas

Llinos, Caernarfon - a'r tu allan
Geiriau Caernarfon/Dyffryn Nantlle; boi, jaman, 'ia' [ar ôl bob dim bron], malai di [yn meddwl 'leiniai di'], Reu [yn Nyffryn Nantlle yn unig]

Llinos o Ddyffryn Nantlle
Slempan - dos i roi 'slempan' sydyn draws dy wynab, ymolchiad sydyn
Malu - 'malai di'- fel 'leiniai di'- cwffio, cael ffrae,
Reu - helo, hwyl fawr, iawn, ti'n iawn, cwl
Jaman - 'haha sdi jaman'-yn yr ystyr bod rhywyn wedi cael 'ail', haha
Fodan, Fodins - Hogan, Cariad [merch], Genod
Boi, Bo_i - Gallu meddwl mewn brawddeg 'Iawn boi/bo_i?'
Paffio - Cwffio
Reu a Slempan yn cael eu defnyddio yn Nyffryn Nantlle yn unig
Boi/Bo_i [ _ yn meddwl pwyslais ar yr o] - Cofis yn deud Boi, ond pobol o Ddyffryn Nantlle yn pwysleisio fwy ar yr 'o'
Jaman, Malu Fodan/Fodins a Paffio yn cael eu defnyddio yn Nyffryn Nantlle a Caernarfon yn unig
Dwi'n deud llawer o'r geiriau iaith 'Cofi' ma 'Dafydd Cwmbran' wedi eu rhestru hefyd! - Dyffryn Nantlle a Caernarfon yn defnyddio lot o'r un geiriau ..* Caernarfon yn cael ei gyfeirio yn enwog iawn i bawb fel 'Dre' hefyd .. ee. 'Dwi'n Cofi Dre!' - 'Dwi'n ddyn/ddynes o Gaernarfon!'

Iwan Williams o Langwm
S'mai wa!

Ceri o Langefni
Picadili - ffrinj gwallt. Mae nain, o sir Fôn, yn dweud 'torra'r picadili 'na nei di'!

Catrin o Nefyn
Penwaig Nefyn - un o ddywediadau Pen Llyn.
Sleifar - rhywbeth neu rhywun sy'n cŵl neu'n wych. Dwn im os mai gair o Ben Llŷn ydyw ond dwi'n ei lecio! Mi fydd fy ffrindiau o ardaloedd eraill Cymru yn edrych yn hurt arnaf pan dwi'n ei ddefnyddio. e.e. "Mae gen ti sleifar o gar".

Katie Jones o Langoed, Ynys Môn
Josgyn - Ffermwr neu rywun o gefn gwlad.

Elin o Lanuwchllyn
Gwrthban - blanced.
Pasa neu pasal - bwriadu gwneud rhywbeth, e.e. 'Dwi'n pasa mynd i'r dre p'nawn 'ma'.

Celyn o Benmorfa, Llandudno
Fflachod - hen sgidiau sydd erbyn hyn braidd yn ddi-liw a brwnt, ond yn dal yn reit annwyl i chi. Efallai fod y gair yma yn dod o Sir Fôn, gan mai oddi yno mae mam yn dod.

Huw Jones, Kyneton, Awstralia
Gair ardal Dolgellau am 'bwriadu mynd' e.e. Dwi'n 'pasa' mynd yfory. Hwyrach mai talfyriad am 'pwrpasu'? Gair arall od yw 'dicini' h.y,'am wn i' y mae'n debyg gen i.

Mags, Caergybi
Ffinan - hances

John Sbecs, Gwalchmai
'Crampog' ydan ni'n ddeud yn Shir Fôn, dim crempog a 'chwalar' yn lle chwaral.

Osian Jones, Dyffryn Nantlle
Un o ymadroddion enwocaf Dyffryn Nantlle yn ystod y 90au, ac sydd bellach yn cael ei ddefnyddio ar hyd a lled Cymru - REU, mi all olygu unrhyw beth mewn ffordd - tisho peint? ateb - Reu. Ti'n iawn? ateb - Reu. Mi all olygu hwyl fawr, helo. Bechod bod grŵp dawns o Gaerdydd wedi dwyn yr ymadrodd yn ystod y 90au!

Emyr Puw o Lanuwchllyn
Hasad - "hasad yr â i". Rhyw groes i "hwyrach", hwyrach - mwy na thebyg yr af, ond posibilrwydd o na hasad - mwy na thebyg na, ond posibilrwydd o fynd. Yn ôl Yr Athro Bedwyr Lewis Jones gallai fod yn dod o'r gêm 'hazzard' - sy'n rhoi 'haphazard' yn Saesneg. Rhyw ystyr o 'ar hap' sydd i 'hasad'.

Huw o Ddyffryn Clwyd
Sbriannu - gadael bwyd ar ôl
Sbwbio - gwneud rhywbeth yn afler (o disturb?)
Hen jadi/ hen sopen - ffordd ddilornus o gyfeirio at ferch
Sgrwtio gwallt - cribo gwallt.

Eleri Williams o Gaernarfon
"Y Futran" - ffordd o ddisgrifio dynas wirion, yn debyg iawn i "y gloman wirion."

Annes Wyn o Sir Fôn
'Stargatsio' - bwyta rwtsh bob munud heb fod angen.
'Lam byd' - nunlla.

Norman o Canada
Byddai Mam yn sôn yn aml am ddywediad o eiddo'i Nain o Landecwyn - "Fe ddaw'r hirlwm." Gair yn ein hatgoffa o dlodi'r werin yn ystod y 19fed Ganrif. Dywediad arall oedd "Stanshio dy facshia," ond 'does gen i ddim syniad o'i ystyr!

Eric Sam o Drefor
Pan fyddem wedi meddwi erstalwm yn y chwaral, buasem yn honni ein bod yn "bocyn" / "bocin". Bellach fe glywch yr ifanc yn dweud eu bod yn "bocyn p***d!!", felly mae'n parhau!

William Owen, Bangor
Un gair sy'n mynnu dod i 'ngo' i ydi 'festiffol'. "Mae hi'n festiffol o oer" fyddai'n cael ei ddeud yn tŷ ni. Neu mi allai fod yn "festiffol o boeth". Ardal Ardudwy oedd hynny ond mi allai fod yn tarddu o Gwm Prysor neu rywle arall ym Meirionnydd. A beth am 'llysa coch' am foron h.y llysiau coch. Un arall! Dwi ddim yn siwr o'r sillafiad - "Gwillagalla". Y darn caled sy'n dod i'r golwg weithiau wrth ochr ewinedd y dwylo sy'n medru bod dipyn boenus os ydio'n cydio yn nillad rhywun. Dyma oedd fy nain yn ei alw ond chlywais i mo'r gair gan neb arall.

Euros Wyn Jones o Llangefni
Gair sydd yn cael ei ddefnyddio yn aml yn Ynys Môn ydy 'dyled' ond mae nhw'n pwysleisio ar yr 'e'...'dyleeeed'.

Dafydd Cwmbran
Geirau Cofis o Gaernarfon
Ceiniog - Niwc, Dimai - Magan, Chwechceiniog - Sei, Swllt - Hog, Hanner Coron - Hanner Bwl, Punt - Screen, Tad - Hen go, Mam - Hen fodan, Plisman - Slop, Dianc - Miglo, Siarad - Patro, Cogio - Smalio, Cath - Giaman, Edrych - Stagio, Cerdded - Cerad, Clywed - Clwad, Lwc - Ffliwc, Gwael - Giami.

Bwyd - Sgram, Bwyta - Sgramio, Wythnos - Wsnos, Malwen - Mawlan Sbectolau - Staggers, Edrych - Sbio, Pres - Macs, Colomen - Cloman, Amddifad - Aniddad.

Ateb - Apad, Cuddio - Ciddiad, Celwyddau - Clwdda, Person - Co, Dynion - Cofis, Helynt - Conji, Cornel - Conol Gwirion - Crinc, Bron - Dest Merch - Fodan, Cefais - Geuso, Syniad - Eidia, Gweddol - Golew.

Curo - Socio, Ergyd - Slog, Gwys - Slang, Rhoddais - Reuso, Curo - Pannu, Llygaid - Llgada, Gwnaeth - Neuso, Clewtian - Lwmpan, Eistedd - Ista, Eisiau - Isio, Wyneb - Gwymad, Cwningen - Gwnifan, Yr un fath - Fatha, Yma - Fama, Dynion y wlad - Cofi'lâd, Daeth - Deuso.

Iwan Wyn o Harlech
Dyma rai o eiriau go anghyffredin ardal Ardudwy: hidia befo - paid â phoeni; sglaffio (bwyd) - stwffio'i hun; brygowthan - malu awyr; (afal yn) gwsnio - crebachu; peth wmbrath - lot; pladras - dynes fawr; nialwch - llanast/bwyd afiach; lliwiad - edliw; ffagio - sathru. Bydd Nain weithiau'n dweud ei bod hi am fynd i "glwydo" yn y "cae sgwâr" neu yn y "ciando"! Dallt?

Jason, Bethesda
Pobol Dyffryn Ogwen yn dueddol o ddweud 'neindio' yn hytrach na 'neidio'.

Aled Pari o Fangor
Slemp neu slempan - ymolchiad sydyn - gair o Ddyffryn Nantlle

Erica Jones, Caernarfon
Gofa - yn lle gorfod dweud 'gofyna wrth' yn llawn, mae rhai o'r Cofis yn defnyddio "gofa". Hefyd, yn lle dweud crisps, defnyddir "crips" fel slang. Hefyd "gwymad" yn lle gwyneb. Pan yn torri darnau o 'dangarine', mae fy chwaer yn eu galw yn 'potel' sef darnau/segmentau o'r ffrwyth.

Ifor Williams, Llanfaglan
"Rhoi caead ar ei bisar o" - dywediad y clywais am y tro gyntaf wythnos diwethaf. Yn golygu 'rhoi taw' ar rhywun.

Rhian, Dolgellau'n wreiddiol!
Geiria' Sir Fôn tra'n coleg Bangor e.e. wariar - cês, rwdan - swejan, grisia - staer, teisan - cacan, myrrath - awydd, sbrencs - 'sblashys', lefran - cariad

Alun Williams o Lanfairpwll
"Difia - gair Sir Fôn am ddydd Iau. Gwelltglaetsh - gair Sir Fôn am glaswellt. le - go iddi - ymadrodd Sir Fôn am 'roi'r ffidil yn y tô'. Tê coch - tê heb lefrith ynddo. Teisen ffenast - battenberg cake. Haf bach Mari Pant - ymadrodd o Niwbwrch am haf bach Mihangel.

Catrin o Aberystwyth
Mae pobl Aberystwyth yn edrych yn syn arnai pan ydw i'n cyfeirio at "garaenj" neu "gratjan" - sef moron a moronen. Rydw i'n cymryd felly fod y geiriau hyn yn eiriau Sir Fôn. Y mae drenydd a dradwy yn eiriau nad ydw i'n glywed y tu allan i Sir Fôn hefyd - "the day after tomorrow and the day after the day after tomorrow." Colbar ar gyfer rhywun sydd yn chwarae o gwmpas yn ffol. Stwna - "pottering about", Smwcian - bwrw glaw yn ysgafn. Y mae nain hefyd yn cyfeirio at drowsus manowasman - sef trowsus fel mae llongwyr yn wisgo, efo llodrau llydan.

Wini Davies o Aberystwyth
Byddai nain (o Lanwrin ger Machynlleth) yn dweud macyn poced am hances boced a moyn am 'fetch'. Geirau dwi ddim wedi eu clywed ers blynyddoedd ydy bagio (sefyll ar rywbeth) a sbrogian ('rummage'). Dwi ddim yn gwybod ble clywais i'r geirau yna gyntaf gan fy mod wedi byw yn Llanfairfechan, Llanarmon (ger Pwllheli) a Harlech dros y blynyddoedd, cyn symud yma.

Cyfrannwyd y sylwadau uchod i wefan BBC Lleol y gogledd orllewin rhwng 2004 a 2008.


Geiriadur

Help / Cymorth

Beth sy' mewn enw?

Aberteifi

Enwau lleoedd

Edrych ar rai o'r prif ddylanwadau ar enwau lleoedd Cymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.