Mae plant ysgol o Abertawe wedi cael cyfle arbennig iawn i ymweld â chartref Dylan Thomas yn 5, Cwmdonkin Drive, fel rhan o ddiwrnod i ddathlu cyfraniad y bardd i'w ddinas enedigol. Aeth plant o ysgol Terrace Road yn ardal Bryn Siriol y ddinas i'r ty yn yr Uplands i ddysgu mwy am y bardd ac i glywed yr awdur ifanc o Fietnam, Nam Le yn trafod gwaith y bardd a'i waith ei hun.
Nam Le oedd ennillydd Gwobr Dylan Thomas yn 2008 am ei gyfrol o straeon byrion, 'The Boat'. Roedd y gystadleuaeth yn agored yn fyd-eang i unrhyw un dan 30 oed. O blith chwedeg o gystadleuwyr, cyrhaeddodd Nam y rhestr fer o ugain, a mynd ymlaen i gipio'r wobr o £60,000. Cafodd Nam ei eni yn Fietnam, a'i fagu yn Awstralia. Bellach, mae e wedi ymgartrefu yn yr Unol Daleithiau.
Cynhaliwyd gweithdy ysgrifennu yn ystafell orau'r tŷ, fyddai'n cael ei chadw ar gyfer achlysuron arbennig yn yr hen ddyddiau. Yn yr ystafell hon, dysgodd y plant fwy am dad Dylan, DJ Thomas, oedd yn hoff iawn o groesawu gwesteion i'r cartref. Er hyn, dysgodd y plant fod DJ yn wrth-gymdeithasol mewn gwirionedd, a bod ganddo biano yn ei swyddfa, yn hytrach nag yn yr ystafell orau, oedd yn anarferol iawn yn y cyfnod. Roedd DJ yn medru'r Gymraeg, ond ni chafodd yr iaith ei throsglwyddo i'w blant oherwydd ei bod hi'n gyfnod tranc yr iaith.
Wrth grwydro o amgylch y tŷ, roedd yr holl ystafelloedd wedi cael eu cadw fel y bydden nhw wedi bod yng nghyfnod plentyndod Dylan, a'r holl ddodrefn yn gweddu i'r cyfnod.
At bwrpas croesawu ymwelwyr i'r tŷ, mae bob dydd yn cynrychioli diwrnod gwahanol ym mywyd y bardd. Ar ddiwrnod ymweliad y plant, Hydref 27, 1914 oedd y dyddiad, sef dyddiad geni Dylan Thomas. Roedd papurau newydd o'r diwrnod hwnnw ar fwrdd y gegin er mwyn i'r plant gael darllen am ddigwyddiadau'r dydd. Er mwyn ychwanegu at wreiddioldeb y tŷ, doedd dim trydan, oni bai am oleuadau, ym mhob ystafell. Cafodd y plant gyfle hefyd i wneud cwpanaid o de gan ddefnyddio hen degell traddodiadol.
Wrth wrando ar Nam Le yn darllen ei waith, gwelodd y plant deipiadur hen ffasiwn ar waith yn swyddfa DJ Thomas, a chael cyfle i dynnu eu llun gyda'r awdur, cyn mynd ar daith o amgylch y tŷ a Pharc Cwmdonkin, lle'r oedd y bardd, mae'n debyg, yn cael ei ysbrydoli ar gyfer nifer fawr o'i weithiau enwocaf, gan gynnwys 'A Child's Christmas in Wales'.
Mae rhagor o weithgareddau wedi cael eu trefnu ar gyfer gweddill y flwyddyn, ac fe fydd cyfle i blant fod yn rhan o brosiect i greu murlun yn dathlu bywyd Dylan Thomas.
Cafodd les y tŷ ei brynu rhai blynyddoedd yn ôl gan Geoff ac Annie Haden yn y gobaith o'i adfywio a'i agor i'r cyhoedd. Mae modd aros yn y tŷ am gyfnodau, lle mae ymwelwyr yn cael gweld yr un fath o bethau a welodd disgyblion ysgol Terrace Road. Roedd yr her o ail-greu'r cartref fel yr oedd ym 1914 yn un sylweddol, ac fe aeth Geoff ac Annie i chwilio am ddodrefn dros gyfnod o rai misoedd, gan gynnwys taith i Awstralia ac ambell sêl cist car!
Mae un peth yn sicr. Drwy gynnal a chadw cof Dylan Thomas yn fyw, fe fydd cenedlaethau'r dyfodol yn cael y cyfle i flasu'r hyn oedd mor arbennig i'r bardd am ei ddinas ei hun, a'r hyn a'i ysbrydolodd i fod yn awdur a seilio cryn dipyn o'i waith ar Abertawe.