Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno cymrodoriaeth i ddau o gymeriadau amlycaf byd chwaraeon yng Nghymru yn eu meysydd unigol.
Yn seremoni raddio Cyfadran Gwyddorau Dynol ddydd Mercher, derbyniodd y paffiwr Joe Calzaghe a'r nofiwr David Roberts raddau anrhydeddus.
Roedd cyn-bencampwr paffio'r byd, Joe Calzaghe yn ddi-guro yn ystod ei yrfa.
Yn ddwy oed, symudodd o Lundain, lle cafodd ei eni, i Dde Cymru, gyda'i fam Jackie a'i dad Enzo, ddaeth yn hyfforddwr arno pan fentrodd i fyd paffio.
Yn naw oed, mentrodd Joe i fyd paffio ac ennill mwy na 120 o ornestau amatur, cyn ennill tair gwobr ym Mhencampwriaeth ABA Prydain.
Trodd Joe yn broffesiynol ym 1993, a dod yn Bencampwr y Byd o fewn dwy flynedd.
Cipiodd dlws Uwch-Ganol WBO y Byd ym 1997, gan guro Chris Eubank yn un o ornestau mwyaf ffyrnig ei yrfa.
Llwyddodd i ennill nifer fawr o dlysau Uwch-Ganol ar yr un pryd ym mis Mai 2007, pan gurodd Mikkel Kessler, gan gynnwys teitlau WBO, Uwch-WBA, WBC a Chylchgrawn Ring yn y pwysau Uwch-Ganol.
Roedd yn bencampwr WBO y Byd am ddeng mlynedd cyn symud ymlaen i bwysau Is-Drwm.
Ar ddiwedd ei yrfa, roedd yn ddi-guro mewn 46 o ornestau, wrth guro'i wrthwynebydd i'r llawr 32 o weithiau.
Daeth ei yrfa i ben ym mis Chwefror eleni. Y tu allan i'r sgwâr paffio, cafodd ei enwi'n Bersonoliaeth Chwaraeon Prydain y Flwyddyn yn 2007, drwy ennill bron i 30% o'r bleidlais gyhoeddus. Dyma'r tro cyntaf i Gymro ennill y wobr ers 47 o flynyddoedd.
Cafodd ei benodi'n CBE gan y Frenhines yn 2008 am ei wasanaeth i fyd chwaraeon.
Ar ôl derbyn ei radd, dywedodd Joe, "Mae gan Brifysgol Abertawe hanes gref o gynhyrchu profiadau academaidd ardderchog i'r holl fyfyrwyr, ac rwy felly'n falch iawn o dderbyn y Radd Anrhydeddus hon ganddyn nhw."
Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro Richard B. Davies, "Mae Joe Calzaghe, heb amheuaeth, yn un o'r sêr chwaraeon gorau mae ein cenedl ni wedi ei gynhyrchu."
Enillodd David Roberts bedair medal aur yng Ngemau Olympaidd Beijing 2008 yn y pwll nofio.
Cafodd David, sy'n 29 oed, ei eni ym Mhontypridd, ac fe ddechreuodd nofio mewn cystadlaethau yn 11 oed, ar ôl cael gwybod bod cerebral palsy arno.
Cynrychiolodd ei wlad yn 14 oed, a'i ddewis yn nhîm Prydain ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop yn Braunschweig bum mlynedd yn ddiweddarach.
Cystadlodd yn y Gemau Paralympaidd am y tro cyntaf yn Sydney yn 2000, ac ennill saith medal - tair ohonyn nhw'n aur, tair arian ac un efydd.
Yn Athens yn 2004, cipiodd bedair medal aur ac un arian.
Mae David wedi ennill yr un nifer o fedalau aur Paralympaidd â'i gyd-wladwr Tanni Grey-Thompson erbyn hyn, ac am y rheswm hwnnw y cafodd ei ddewis i gludo baner Prydain yn seremoni cau'r Gemau yn Beijing y llynedd.
Mae'n ddeilydd recordiau yng nghystadlaethau'r 50m, 100m, 200m a'r 400m yn y dull rhydd.
Derbyniodd MBE yn 2005 am ei wasanaeth i hyrwyddo chwaraeon i bobl ag anableddau, a'r CBE yn 2008 yn dilyn ei lwyddiant personol.
Mae David bellach yn hyfforddio pobl ifanc ag anableddau yng Nghaerffili, ac yn cael ei hyfforddi ei hun gan David Pye yn y Pwll Cenedlaethol yn Abertawe.
Ar ôl derbyn ei radd anrhydeddus, dywedodd David: "Mae'n fraint ac yn anrhydedd i gael gwahoddiad i dderbyn gradd anrhydeddus gan brifysgol mor uchel ei pharch. Mae'r achlysur yn un y bydda i'n ei drysori am weddill fy mywyd."
Yn ystod y seremoni, dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor, Yr Athro Noel Thompson, "Rwy wrth fy modd fod David wedi derbyn Cymrodoriaeth gan y Brifysgol. Fel prifysgol sy'n llwyddiannus ym myd chwaraeon, rydyn ni'n falch iawn o'n cyfleusterau ardderchog ac o'r rhan maen nhw'n ei chwarae yn y broses o gynhyrchu athletwyr ar lwyfan y byd."
"Rydyn ni'n dymuno pob llwyddiant iddo ym Mhencampwriaethau Ewrop yn fuan, Pencampwriaeth y Byd, ac wrth gwrs yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012."