BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Dinesydd
Mohammed Sarul Islam, Delme Bowen a Faiz Belal 'Paprika' - Bwyty Newydd yn y Bae
Rhagfyr 2004
Er ei bod yn noson oer o Dachwedd mentrodd llawer o Gymry Cymraeg Caerdydd i noson agoriadol swyddogol tŷ bwyta newydd 'Paprika' yn Stryd Bute, Bae Caerdydd.
Roedd tua 60 o bobl wedi cael y fraint o gael gwahoddiad gan berchnogion 'Paprika', y Cynghorydd Mohammed Sarul Islam a'i bartner busnes, Faiz Belal.

Roedd y fwydlen yn cynnig amrywiaeth eang o gig oen i samosa llysieuol a chyri blodfresych. Roedd pob dim yn flasus iawn ac yn tynnu dŵr i'n dannedd! Yn wir, aeth llawer yn o^l am ail blataid!

Profiad dymunol oedd gweld croestoriad o bobl o gymaint o wahanol gefndiroedd yn bwyta ac yn cael hwyl yng nghwmni Dirprwy Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Delme Bowen, a agorodd y noson drwy dorri'r ruban a chroesawu tŷ bwyta 'Paprika' yn rhan o fywyd cymdeithasol Caerdydd.

Mae 'Paprika' mewn lleoliad delfrydol yn agos i Ganolfan y Mileniwm - yn addas iawn am bryd blasus cyn neu wedi sioe. Gallaf eich sicrhau y cewch groeso cynnes gan y perchnogion a chyfle i flasu yr holl ddanteithion y mae 'Paprika' yn eu gynnig. Iechyd da! Shin Couch


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy