BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Straeon
Anthony Crockett, Esgob Bangor Teyrngedau i Tony Crockett
'Cwmnïwr da oedd yn siwtio pawb'
Disgrifwyd y Gwir Barchedig Anthony Crockett, a fu farw ddechrau Gorffennaf, fel cwmnïwr da a oedd "yn fwy nag offeiriad" gan un o'i gyn blwyfolion.

Ar y rhaglen Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru dywedodd Tim Evans o Gynwyl Elfed, lle bu Tony Crockett yn offeiriad plwyf; "Yr oedd yn fwy nag offeriad ond yn ffrind i'r teulu a'r ardal gyfan."

Fe'i disgrifiodd hefyd fel "cwmnïwr da" yr oedd rhai o bob oed, gan gynnwys plant a phobl ifainc, yn meddwl y byd ohono.

"Yr oedd yn siwtio pawb ac yn tynnu pobl i'r eglwys," meddai.

gwrandoTim Evans o Gynwyl Elfed yn siarad gyda John Roberts ar 'Bwrw Golwg', Gorffennaf 6, 2008


Ar yr un rhaglen cyfeiriodd Meurig Llwyd, Archddiacon Bangor, at weledigaeth Tony Crockett o eglwys gynhwysol, agored.

"Yr oedd yn boen iddo weld carfanau yn gwrthod siarad â'i gilydd," meddai.

Fe'i disgrifiodd hefyd fel esgob a deithiodd i bob cwr o'r esgobaeth gan ymweld ag eglwysi "na welodd esgob ers blynyddoedd lawer" cyn hynny.

Yn ystod ei weinidogaeth dywed iddo fynd â'r eglwys at y bobl.

"A rhoi wyneb dynol iawn i'r esgob a'r weinidogaeth a mynd a hi allan at y bobl y tu hwnt i ffiniau'r eglwys," meddai.

Ychwanegodd y byddai ei stamp ar yr esgobaeth "yn arhosol".

gwrandoMeurig Llwyd, Archddiacon Bangior, yn siarad gyda John Roberts ar 'Bwrw Golwg', Gorffennaf 6, 2008


Hefyd:

  • Marw Anthony Crockett

  • Teyrnged Patrick Thomas


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy