|
Y Drenewydd yn ôl ar y brig
20 Medi 2005
Llwyddodd Y Drenewydd i esgyn yn ôl i frig Uwchgynghrair Cymru â buddugoliaeth dros Airbus ym Mrychdyn nos Fawrth.
Llwyddodd yr ymwelwyr i fynd ar y blaen â gôl gan Danny Barton wedi 11 munud a seliwyd y fuddugoliaeth deng munud yn ddiweddarach wrth i Dave Purcell droi'r bêl i'w rwyd ei hun.
Bu rhaid i'r Rhyl fodloni ar bwynt wedi gôl hwyr gan Derwyddon Cefn ym Mhlas Kynaston.
Roedd Lee Hunt wedi rhoi'r Lillywhites ar y blaen wedi 28 munud yn dilyn gwaith da gan Marc Limbert ond daeth gwyr Dixie McNeill yn ôl â gôl haeddianol Andrew Edgar wyth munud o'r diwedd.

|