Main content

Geirfa Podlediad Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr - Ionawr 19, 2016

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

 

Huw Stephens - David Bowie

rhyddhau - to release

dyanwlad - influence

talu teyrnged - to pay a tribute

arbrofi - experimenting

unigryw - unique

ymwybodol - aware

yng nghyswllt - in the context of

chwarae'n fyw - playing live

trychinebus - disastrous

haeddu - to deserve

"...efo newyddion mawr yr wythnos sef bod y canwr pop David Bowie wedi marw yn chwedeg naw oed. Roedd o newydd ryddhau ei albym olaf. Buodd llawer iawn o bobol yn talu teyrnged iddo fo ar Radio Cymru ac yn dweud pa mor fawr oedd ei ddylanwad arnyn nhw. Nos Lun mi gafodd Huw Stephens sgwrs am Bowie efo Emyr Glyn Williams ac Esyllt Williams. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."



Taro'r Post - Supa Chai

rheswm - reason

diwylliant - culture

parchu - to respect

Casnewydd - Newport

erthygl - article

hyderus - confident

profiad - experience

tramor - overseas

rhyfedd iawn - very strange

bathodyn - badge

"Dau o ffans David Bowie yn talu teyrnged iddo fo yn fan'na ar raglen Huw Stephens. Pwnc Taro’r Post ddydd Mawrth oedd dysgu Cymraeg. Un o’r rhai fuodd yn siarad ar y rhaglen oedd Supa Chai o wlad Thai Daeth o i Gymru i astudio yn y brifysgol yng Nghaerdydd bedair blynedd yn ôl ac mi benderfynodd o ddysgu Cymraeg. Roedd Garry Owen wedi siarad efo fo yn gynta yn Eisteddfod Meifod y llynedd. Roedd Supa Chai wedi mynd yno am yr wythnos er mwyn cael defnyddio ei Gymraeg...cwestiwn Garry i Supa Chai oedd pam ei fod wedi dysgu Cymaeg..."



Post Cyntaf - Aled Sion

cyfathrebu - to communicate

enwebu - to nominate

gweithgareddau - activities

beirniad - judges

rhestr fer - short list

cynhadledd i'r wasg - press conference

oedran priodol - appropriate age

llefaru - reciting

offerynol - instrumental

muriau - walls

"Supa Chai o wlad Thai oedd hwnna yn dangos i wrandawyr Radio Cymru ei bod yn bosib i bawb ddysgu Cymraeg. Tybed welwn i fo'n cystadlu am wobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Gendlaethol? Mae gan eisteddfod yr Urdd wobr arbennig i Ddysgwr y Flwyddyn hefyd, ond maen rhaid i chi fod o dan dau ddeg pump oed i gystadu am hwnnw. Mae Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Sir y Fflint eleni ac mae na newidiadau i'r ffordd maen nhw am ddewis Dysgwr y Flwyddyn. Dyma Aled Sion, yn son am y newidiadau rheini ar y Post Cyntaf... "



Stiwdio - Lois Arnold

Cyfarwyddwr - Director

barddoniaeth - poetry

maes iechyd meddwl - mental health field

Eryri - Snowdonia

yn gyfrifol am - responsible for

yn bodoli - existing

creu yn llenyddol - creating literature

dilyniant - sequel

cerdd wlatgarol - a patriotic poem

llechi - slates

"Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd yn sôn am y newidiau i'r gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn. Ac os dach chi o dan dau ddeg pump oed, beth am roi cynnig arni? Enillodd Lois Arnold deitl Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd. A dyma enillydd sydd yn wirioneddol wedi defnyddio ei Chymraeg ers hynny. Mae hi wedi ysgrifennu llyfr i ddysgwyr Cymraeg o’r enw Ffenestri. Mae’r llyfr yn llawn straeon a cherddi i ddysgwyr Cymraeg lefel Sylfaen a Chanolradd. Buodd hi’n sôn mwy am y llyfr wrth Nia Roberts ar Stiwdio ddydd Mawrth. "



Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Perfformiadau Wrecsam

Nesaf

Rheolwr newydd i Abertawe