Ar y Marc: Ardal lliwgar, heriol a hynod annibynnol Buenos Aires
Dylan Llewelyn
Blogiwr Ar y Marc
Gyrhaeddon ni Frasil chwe diwrnod ar ôl gadael Cymru - cyfnod fyddai wedi bod fymryn yn hir hyd yn oed yn nyddiau teithio T H Parry-Williams.
Ond fel dysgodd Lloegr yn Manaus bell, does 'na ddim pwynt dechrau ar wib os nad oes ganddoch chi'r egni na'r dycnwch i gyrraedd y chwib olaf mewn un darn.
Oriel luniau Dylan Llywelyn yng Nghwpan y Byd ym Mrasil.
A son am un darn, cael a chael bu hi i ni ar ôl diwrnod difyr yn Boca - ardal liwgar, heriol a hynod annibynnol Buenos Aires a chartre Boca Juniors.
Doedd yna fawr ddim gwahanol yn amgueddfa a siop Boca i drapiau twristaidd unrhyw glwb modern arall. Llond lle o gwpanau a lluniau hen arwyr i'w dilyn gan grysau, capiau, mygiau a chapiau afresymol o ddrud cyn cyrraedd y drws allan. Dysgais ddau beth. Yn gynta’, ymddengys mai'r mwya’ oedd maint cwpan, lleia’ byd oedd ei phwysigrwydd hi. Ac yn ail, tra bu T H yn troedio tir De America gan gynnwys Beunos Aeres a Rio de Janeiro yn 1925, roedd glaslanciau Boca Juniors ar daith Ewropeaidd. Sgwn i os mai dyn River Plate ta Boca oedd o?
Roedd y daith o amgylch y stadiwm yn dipyn difyrrach wrth i'r tywysydd esbonio rhan seicoleg syml yn llwyddiant ei glwb. Eglura fod y cefnogwyr oddi cartre’ yn cael eu gosod yn rhan ucha'r Bombonera - rhan lle nad oedd cysgod o gwbl rhag yr elfennau, ac a fyddai, ar ddiwrnod braf, agosâ at ddrewdod y porthladd. Nid ar chwarae bach gaiff gefnogwyr Boca eu galw 'n bosteros gan ddilynwyr y gelyn, River Plate.
Gelwir cefnogwyr mwya’ gwallgof Boca yn La Doce sef y 12fed dyn oherwydd eu swn ac angerdd dros y crysau glas a melyn. Esboniodd Luis fod y clwb wedi lleoli ystafell newid yr ymwelwyr reit o dan y teras lle safai, gweiddai a chanai'r La Doce yn fygythiol o swnllyd. Seicologics Senor Picton.
O ia, nol a ni at Gwpan y Byd. A llefydd gwell i dreulio pnawn yn gwylio Mecsico'n trechu Camerwn ac yna'r deiliaid Sbaen yn cael eu chwalu gan Yr Iseldiroedd ym Mrasil na bar bach ar stryd Caminito yn Boca yng nghwmni perchennog o Golombia wrth yfed vino tinto gora 'r Ariannin. A hynny, er gwaetha'r llygredd gwleidyddol ac economaidd ddaw law yn llaw a ffyrdd i wneud arian ydi hud a lledrith Cwpan y Byd. Rhannu angerdd os nad iaith.
Aeth hi'n wledd o win coch wrth i'r Iseldiroedd synnu Sbaen a phawb wylio nhw yn chwarae trydydd tîm Cymru yn Amsterdam ychydig dros wythnos ynghynt.
Problemau i Del Bosque a Sbaen ond dim hanner cymaint â'n problemau ni. Roedd hi wedi tywyllu bellach a tydi Boca yn y nos ddim run peth a Boca'r dydd. Roedd y twristiaid, y stondinau crefftau a'r dawnswyr tango wedi diflannu. Felly hefyd y tacsis!!!
Dwi'n amau mai'r vino tinto berswadiodd ni i gerdded lawr y strydoedd tywyll i chwilio am dacsi gyda Gwilym yn dynwared cyfuniad o David Pleat yn rhedeg ar draws Maine Road yn yr 80'au a John Inman wrth geisio stopio un. Ofer fu'r ymdrech lipa cyn i gwpwl ifanc trugarog ddod atom a deud fod hi'n rhy beryg i ni aros yna. Roedd o'n baratoad da am Frasil am wn i, ond fe lwyddon nhw i berswadio gyrrwr tacsi i fynd a'r tri gŵr annoeth i hafan ddiogel y Casa Rosada yng nghanol y ddinas.
Ar ôl 24 awr yn tynnu cannoedd o luniau o ryfeddodau rhaeadrau Iguazu reit ar y ffin, a gwylio gem Lloegr yn erbyn Yr Eidal mewn trattoria Eidalaidd (be arall!!) gyrhaeddon ni Curitiba brynhawn Sul i flasu naws dinas Cwpan y Byd am y tro cyntaf.
Dros sgwrs gyda dau gefnogwr Nigeria a stêc arall roedd hi'n ddifyr gweld y 'berthynas' rhwng cymdogion clos ar gyfandir arall. Doedd y trigolion lleol ddim yn hapus o gwbl pan sgoriodd Messi ail Yr Ariannin yn erbyn Bosnia, gan brofi fod hi'n gwbl naturiol i bobl beidio cefnogi cymdogion. Dwi'n credu mai doeth o beth oedd peidio dweud wrthyn nhw fod Yr Ariannin yn ennill o ran safon stêcs a gwin goch hefyd!
Falle fod Cerys Matthews yn dathlu MBE adra, ond yma ym Mrasil mae ganddo’n ni glwy’ ABE (anyone but England). Ond wrth edrych ymlaen at weld ein gem gynta’ erioed yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd rhwng Nigeria ac Iran rhaid cyfadde’ fod gen i deimladau cymysg - cyffro o fod yn rhan o wledd mor lliwgar wrth gwrs, ond mwy na digon o ddifaru fod ni ddim yma yn cael cefnogi ein gwlad ein hunain.
