Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Dei Tomos - Y Mynydd Du
cynffonnau defaid - sheep tails
porfa - pasture
cneifio - shearing
wyn swci - pet lambs
cynefin - sheep-walk
llwybrau - paths
bugail - shepherd
nod - earmark
argraff - impression
sboner - cariad
Rhaglen arbennig efo Dei Tomos yn crwydro ardal y Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin, ac yn cael sgwrs fach efo'r bobol sy’n byw ac yn gweithio ar y mynydd hwnnw. Os ydych chi'n ychydig o 'townie' bydd y clip nesa 'ma yn rhoi llawer iawn o wybodaeth i chi ar sut fath o beth ydy ffermio defaid mynydd.
Richard Rees - Mynediad am Ddim
sioe lwyfan - stage show
dylanwad - influence
traddodiad - tradition
arddull - style
diwylliant - culture
cefndir - background
amrywiaeth - variety
digyfeiliant - unaccompanied
cymysgedd rhyfedda - strangest mixture
gogwydd gwleidyddol - political inclination
Dei Tomos yn fan'na yn cael sgwrs fach am ffermio defaid ar y Mynydd Du. Falle bod rhai ohonoch chi wedi bod i'r Eisteddfod yn Llanelli eleni ac wedi gwrando ar rai o'r bandiau yno. Un o'r rhai mwya poblogaidd oedd Mynediad am Ddim, fuodd yn perfformio yn y glaw mawr ar nos Sadwrn ola'r Eisteddfod. Band y saithdegau oedd Mynediad mewn gwirionedd, ac roedd eleni yn bedwardeg mlynedd ers iddyn nhw ddechrau perfformio. Dyma i chi ran o sgwrs gafodd Rchard Rees efo aelodau'r band ac wedyn cawn ni gyfle i glywed ychydig ar y band.
Bore Cothi - India
O reidrwydd - out of necessity
cyd-destun - context
ysfa - an urge
sdim clem 'da fi - I've no idea
yn gyfangwbl - completely
chwysu - to sweat
tymheredd - temperature
wedi hen arfer - well used to
Un o ganeuon hyfryd Mynediad am Ddim oedd honna, y band sydd yn bedwardeg mlwydd oed eleni! Aeth Shân Cothi â ni draw i India ddydd Mawrth i gael sgwrs efo Geraint Evans sy’n dod o Sir Fôn yn wreiddiol, ond sydd erbyn hyn yn byw yn y Dwyrain Pell. Be goblyn mae rhywun o Fôn yn ei wneud yn India meddech chi? Dyma Geraint yn dweud y cyfan wrth Shân.
Cofio - Eisteddfodau Bach
fengach - ifancach
mynychu - to attend
ers talwm - long ago
tipyn o ymdrech - quite an effort
rhagbrofion - preliminary competitions
bwlch - a gap
ar hyd a lled eich ardal - all over your area
dydy o ddim o bwys - it's not important
symyd efo'r oes - move with the times
cyfrannodd dipyn - contributed a lot
Sgwn i ydy cyris India yn boethach na rhai Llanfairpwll? Yntydy Radio Cymru yn dda am ddod o hyd i siaradwyr Cymraeg ym mhob rhan o'r byd d'wedwch? Roedd Lottie Ogwen Tomos yn byw ychydig bach yn nes adre na'r India - yn y Ffor ger Pwllheli. Ar Cofio nos Fercher glywon ni sgwrs gaeth ei recordio yn Nwy Fil a Saith pan oedd Lottie yn wythdeg tair mlwydd oed. Fel y cawn ni glywed mewn munud, buodd Lottie yn cystadlu mewn eisteddfodau bach ar hyd a lled y wlad pan oedd hi'n fengach.
