Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 15fed o Dachwedd 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Daniel Glyn - Owen Powell

i ben - to a head

ar goll - lost

y gymhariaeth - the comparison

deunaw mlwydd oed - 18 years old

yn cael eu cipio o - taken from

go iawn - real

colled o'ch bywoliaeth - a loss form your livelyhood

hoffter - a liking

cyflawni - to fulfil

breuddwydio - to dream

Owen Powell yn sgwrsio gyda Daniel Glyn ar ei raglen fore Sadwrn. Am chwe blynedd, buodd Owen yn chwarae'r gitar yn y band enwog Catatonia. Buodd Catatonia yn y siartiau droeon ac yn chwarae ar draws y byd, ond fel popeth da, daeth y grwp i ben yn y diwedd. Yn y clip yma mae Owen yn sôn am pa mor anodd iddo fe oedd gweld popeth yn gorffen.



Bore Cothi - How Green Was My Valley

acenion - accents

cymoedd de Cymru - south Wales valleys

cael ei hystyried yn glasur - it's considered a classic

ffili - methu

cynrddwg - as bad as

golygfa - scene

Gwyddelod - Irish

o dras - extraction

yn ddiweddarach - more recently

cyfarwyddwr - director

Owen Powell oedd hwnna'n edrych yn ôl ar ei ddyddiau gyda'r band Catatoniia. Dach chi wedi gweld y ffilm 'How Green Was My Valley' erioed? Cafodd y ffilm ei gwneud yn 1941 ac roedd hi i fod i bortreadu bywyd yng nghymoedd de Cymru. Ond roedd rhywbeth rhyfedd iawn am acenion actorion y ffilm a daeth Gary Slaymaker i gael sgwrs efo Shan Cothi ddydd Mawrth i esbonio pam bod hynny wedi digwydd.



Radio Cymru 2 - Catherine Ayres

yr un pryd - at the same time

amserlen - timetable

A bod yn onest mi roedd yr acenion yna'n ofnadwy on'd oedden nhw? Un sy'n gorfod dysgu llawer o acenion ydy'r actores Catherine Ayres. Mae hi wedi bod mewn sawl drama teledu a theatr Gymraeg ond nawr mae rhan gyda hi yn yr opera sebon enwog Coronation Street. Dyma hi'n sgwrsio gyda Caryl a Daf ar Radio Cymru 2.



Beti a'i Phobl - Menai Williams

profiad - experience

cyflwr - condition

cerddor - musician

nid yn unig hynny - not only that

tueddu i ddweud - tend to say

yn oleuach - brighter

yn dywyllach - darker

pedwar ar hugain - 24

peidiwch â dweud - you don't say

Catherine Ayres oedd honna yn sôn am ei phrofiad yn actio ar Coronation Street ac yn amlwg yn mwynhau'r profiad. Dych chi wedi clywed am y cyflwr Sinesthisia? Os nad, dyma i chi'r cerddor Menai Williams yn esbonio wrth Beti George beth yn union ydy'r cyflwr.



Dros Ginio - Meurig Griffiths

cystadleuaeth - competition

pencampwyr - champions

golygu - to mean

buddugoliaeth - victory

sefyllfa - situation

sychder - drought

go sobor - quite serious

undod - unity

Wel diddorol on'd ife? Ac mae Menai mewn cwmni da yn fan'na on'dyw hi gyda'r holl bobl enwog oedd gyda Sinesthisia. Mae Cwpan Rygbi'r Byd drosodd am bedair blynedd arall, a'r tîm gurodd Cymru a LLoegr yn y gystadleuaeth yw'r pencampwyr - sef De Affrica. Mae Meurig Griffiths yn dod yn wreiddiol o Dalybont ger Bangor, ond mae e'n byw yn Ne Affrica erbyn hyn. Dyma fe'n yn sôn am beth oedd buddugoliaeth De Affica yn golygu i bobl y wlad.



Dros Ginio - Prif Weinidog Cymru

Prif Weinidog Cymru - The Prime Minister of Wales

cyfres - series

rhandir - allotment

yn ôl pob golwg - apparantly

dianc - escape

gweinidog - minister

cyfleuon - opporunities

paratoi'r tir - preparing the plot

A dw i'n siwr bod dathliadau anhygoel wedi bod yn Ne Affrica yn dilyn y fudduygoliaeth fawr. Mark Drakeford yw Prifweinidog Cymru a fe oedd gwestai cynta y gyfres newydd Dros Ginio yr wythnos hon. Sut mae Prif Wenidog y wlad yn ymlacio tybed? Wel mewn rhandir yn ôl pob golwb. Dewi Llwyd oedd yn ei holi.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Azerbaijan v Cymru - Rowndiau Rhagbrofol Ewro 2020

Nesaf