Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,23 Nov 2025,30 mins

Gwanas Fawr a Corris Uchaf

Iolo Williams - Sarn Helen

Available for 35 days

Iolo Williams sydd yn cyd-gerdded rhannau o’r hen lôn Rufeinig, Sarn Helen gyda’r archeolegydd Rhys Mwyn. Mae Rhys wedi dewis 3 tamaid o Sarn Helen - mewn 3 ardal sydd yn mynd â ni o’r Brithdir ger Dolgellau i lawr tuag at Pennal ger Machynlleth. Mae'r daith yn datgelu sut mae tirlun Cymru wedi newid dros y canrifoedd. Heddiw mae'r ddau yn cyd-gerdded gyda Dr Cathryn Charnell-White o Brifysgol Aberystwyth a Sam Robinson, gwneuthurwr seidr, bardd a cherddor. Mae o hefyd wedi gweithio fel bugail ym Mro Ddyfi. Mae'r daith yn mynd â ni o Cross Foxes i Gwanas Fawr a draw tua Chorris Uchaf. Mae Iolo hefyd yn sôn sut mae newid hinsawdd wedi effeithio'r ardaloedd hardd a bregus yma.

Programme Website
More episodes