Episode details

Available for over a year
Beti George yn sgwrsio gyda'r awdur Malachy Owain Edwards. Cafodd Malachy ei fagu yn Ffynnon Taf. Saesneg oedd iaith yr aelwyd, ond fe aeth ei dad ati i ddysgu Cymraeg. Mae'n trafod y ffaith ei fod eisiau bod yn awdur, ac fe gafodd ei fagu yng nghanol llyfrau. Fe wnaeth ei hunangofiant 'Y Delyn Aur' gyrraedd rhestr fer Llyfr Ffeithiol Greadigol 'Llyfr y Flwyddyn' eleni. Wrth drafod ei hunaniaeth mae'n mynd a ni ar daith i Lundain, Hong Kong, Iwerddon a Barbados, ac mae dylanwad ei deulu yn fawr arno. Mae Malachy bellach yn byw hefo'i wraig Celyn a'r teulu ar Ynys Môn.
Programme Website