
Pob nos Fawrth ar raglen Magi Dodd mae Jeni Lyn yn dod â'r newyddion diweddaraf o'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt...
Cefnogi Stereophonics yn y Stadiwm - Cyfle gwych i fandiau o Gymru - mae'r Stereophonics yn chwilio am rhywun i agor eu noson fawr yn Stadiwn Caerdydd ar y 5ed o Fehefin! Mae'n rhaid i'r band fyw yng Nghymru - i gystadlu mae'n rhaid rhoi fideo o berfformiad ar dudalen Myspace Stereophonics! Bydd y band llwyddianus yn agor noson a fydd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan Doves a Kids in Glass Houses! Mae'r band yn gaddo mai dyma fydd eu gig mwyaf o'r haf - am fwy o fanylion ewch draw at www.myspace.com/stereophonics
Bandiau Gwyl Fringe y Big Weekend - Cafodd enwau bandiau a fydd yn ymddangos yn nigwyddiadau ymylol Penwythnos Mawr Radio 1 eu cyheoddi yr wythnos ddwethaf ac mae digonedd o fandiau o Gymru wedi eu henwi. Bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal yn Wrecsam, Caernarfon a Bangor - y bandiau Cymraeg sy'n ymddangos fydd Mr Huw, Y Bandana, Y Niwl, Yucatan, Messner, Sibrydion, Race Horses, Crash Disco, Cyrion, Pen-Ta-Gram, Tokinawa, Cloud4Mations, Masters In France, We Are Animal ac enillwyr Brywdr y Bandiau C2/Mentrau Iaith Cymru 2010 - Yr Angen! Mae bron i 500,000 wedi cofrestru ar gyfer tocynnau - bydd Y Promatics, Yr Ods a We Are Animal yn ymddangos yn y brif wyl ar lwyfan BBC Yn Cyflwyno...
Am yr holl wybodaeth gan gynnwys manylion y gigs ewch draw at www.myspace.com/radio1 a chlicio ar Big Weekend.
Albym Huw M + Ail-gymysgiadau Dileu - Bydd albym gyntaf Huw M - Os Mewn Swn, yn cael ei ryddhau ar label Gwymod ar Fai y 10fed. Enillodd ddwy wobr yng ngwobrau Rap C2 yn ddiweddar, ac mae wedi bod yn brysur iawn yn gigio - ymddangosodd yng ngwyl y Camden Crawl dros y penwythnos ac mae llawer mwy ar y gweill. I gyd-fynd a rhyddhau yr albym 'Os Mewn Swn' mae Dileu wedi paratoi 2 remics o Hiraeth Mawr a Hiraeth Creulon, sef 'Hiraeth Creulon' sydd ychydig yn fwy tywyll, a 'Hiraeth Hapus' sydd ychydig yn fwy up-beat. Mae'r tracs yn swnio'n wahanol iawn i'r gan wreiddiol, a dyma glip... Am fwy o wybodaeth: www.myspace.com/huwmm
Ffiliffest - Mae gwyl Gymraeg newydd gan Fenter Caerffili yn chwilio am fandiau ac artistiaid fyddai a diddordeb ymddangos yn yr wyl. Bydd yn cael ei chynnal ar y 26ain a'r 27ain o Fehefin ar Faesydd chwarae Owain Glyndwr, gyda'r bwriad o hyrwyddo'r Gymraeg yn yr ardal.
Am fwy o wybodaeth, ebostiwch [email protected] neu ffonio 01443 82091.
Sioe Gerdd Kylie Minogue - Yn dilyn llwyddiant sioeau gyda caneuon gan artistiaid megis Abba, Queen a Michael Jackson mae'n debyg mai Kylie Minogue yw'r diweddaraf i greu sioe gerdd yn seiliedig ar ei caneuon. Yn ol adroddiadau, bydd yr awdur Kathy Lette yn creu'r stori, tra bydd Kylie a'i chwaer Danni Minougue yn cynhyrchu'r sioe! Yn ol ffigurau swyddogol, Kylie yw'r drydedd gantores fwyaf llwyddianus ym Mhrydain tu ol i Whitney Houston a Madonna. Mae sioeau Mamma Mia, Thriller a We Will Rock You wedi bod yn hynod o lwyddianus, ac yn ennill milynau pob blwyddyn.
Ryan Kift angen Zombies! - Mae apel wedi cyrraedd gan Ryan Kift yn chwilio am wirfoddolwyr i ymddangos yn ei ffilm 'Zombies From Ireland!'. Mae'n ffilmio yfory ar draeth Ynys Llanddwyn am 2pm, ac angen cymaint o Zombies a sy'n bosib! Am fwy o wybodaeth e-bostiwch Ryan ar [email protected].
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
