Ai'r Traitors fydd y gyfres nesaf i ddenu gwylwyr newydd at S4C?

Claudia Winkleman/Egin S4CFfynhonnell y llun, Studio Lambert/BBC
  • Cyhoeddwyd

Yn dilyn llwyddiant Y Llais ar S4C, ai'r Traitors fydd y gyfres nesaf i ddenu gwylwyr newydd i'r sianel deledu?

Mae S4C wedi comisiynu fersiynau Cymraeg o frandiau mawr eraill gan gynnwys Gogglebocs ac Y Llais.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru, dywedodd Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans ei fod wedi "clywed sawl un yn dweud 'o mae'n rhaid i chi 'neud y Traitors yn Gymraeg'".

Ychwanegodd y "bydd yn gallu bod dan ystyriaeth wrth gwrs y bydd e", ond dydyn nhw heb roi cais mewn eto.

Pan ofynnwyd 'a welwn ni'r Traitors ryw ddydd?' ar S4C, ateb y prif weithredwr oedd "Pwy â wyr?"

Geraint EvansFfynhonnell y llun, S4C

Esboniodd Mr Evans mai "ceisio apelio'n eang gyda'n cynnwys ni" ydy'r nod wrth droi at "frandiau poblogaidd tebyg i hyn".

"Ma' 'na bobl mewn cymunede falle lle dyw'r Gymraeg ddim yn rhan o iaith y cartref sydd yn barod i roi cyfle i rywbeth ma' nhw'n gyfarwydd ag e ar ddarlledwyr eraill."

Aeth ymlaen i ddweud bod Y Llais wedi bod "yn llwyddiant ysgubol" gan gyrraedd "dros 50% o'r gynulliedfa yna dan 45".

Mae ymchwil newydd wedi ei gyhoeddi sy'n awgrymu bod S4C wedi cyfrannu dros £150,000 at economi Cymru y llynedd.

Cafodd yr ymchwil ei gyhoeddi mewn adroddiad annibynnol gan gwmni Wavehill.

Esboniodd Mr Evans bod y gwariant yma ar sail gwariant uniongyrchol S4C ar eu staff yn eu swyddfeydd ar draws Cymru.

"Ond tu hwnt i hynny wrth gwrs ni'n comisiynu cynnwys gan y sector annibynnol a ma' nhw hefyd wedi lleoli ar draws Cymru", meddai.

"Ma' 'da ni gadarnleoedd yn y gogledd-orllewin yng Ngwynedd a Môn lle ma cwmniau fel Cwmni Da a Rondo yn cyflogi nifer o bobl sy'n byw a gwario yn eu cymunedau."

Dywedodd bod "yr un peth yn wir am Tinopolis yn Sir Gâr yn ogystal â'r canolbwynt yma yng Nghaerdydd".

'Buddio cymunedau Cymru'

Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu bod 57% o wariant y sianel bellach y tu allan i Gaerdydd.

"Rydyn nin falch iawn o hynny", meddai.

"Ma' 'na gynnydd o rywbeth tebyg i 5% yn yr adroddiad 'ma eleni o gymharu 'da dwy flynedd yn ôl", esboniodd.

"Ni wir isie bod S4C yn sianel genedlaethol i Gymru ac yn gatalydd i dwf economaidd ar hyd a lled y wlad."

Wrth ofyn iddo ai creu swyddi newydd mae S4C neu cynnal swyddi sy'n bodoli eisoes fe ddywedodd:

"Cynnal swydddi fydden i'n dweud yn fwy na chreu achos ein bod ni'n trwy ein gweithgareddau yn cynnal swyddi uniongyrchgol ond hefyd anuniongyrchol oherwydd ma' rhywun sy'n chynyrchu'r Llais yn denfyddio cwmniau adnoddau."

Setliad cyn-brif weithredwr

Fis diwethaf fe gafodd cyn-brif weithredwr S4C, Siân Doyle, setliad ar ôl cael ei diswyddo, ond ni chafodd telerau'r setliad eu datgelu.

Dywedodd Mr Evans ei bod "hi'n rhan o delerau'r setliad nad oedd y swm yna i fod yn gyhoeddus".

"Un peth fyddwn i am ddweud yw wnaeth y setliad yna ddim costio ceiniog i gyllideb S4C oherwydd mai drwy yswirwyr oedd yr achos yn cael ei amddifyn", meddai.

Dywedodd felly na fyddai'n rhaid cynnwys y swm hwnnw yn rhan o'u cyfrifon cyhoeddus.

Pan ofynnwyd a fyddai'n effeithio ar eu costau yswiriant dywedodd: "Ma' hynny'n bosib ond fi'n credu bod ni'n ceisio dyfalu fan hyn yn lle delio mewn ffeithie."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig