Arestio dau wedi i Ian Watkins, cyn-ganwr a throseddwr rhyw, farw yn y carchar

Yn 2013 cafodd Ian Watkins o Bontypridd ei garcharu am droseddau rhyw yn erbyn plant
- Cyhoeddwyd
Mae Ian Watkins, cyn-ganwr y grŵp roc o Gymru Lostprophets a throseddwr rhyw, wedi marw wedi ymosodiad yng ngharchar Wakefield.
Dywed Heddlu Sir Gorllewin Efrog eu bod wedi arestio dau ddyn, 25 a 43 oed, ar amheuaeth o lofruddio.
Ychwanegodd plismyn eu bod wedi cael eu galw i'r carchar am 09:39 fore Sadwrn wedi adroddiadau bod ymosodiad difrifol wedi bod ar garcharor, 48 oed - bu farw yn y fan a'r lle.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai eu bod yn ymwybodol o ddigwyddiad yn y carchar.
"Dydyn ni ddim yn gallu gwneud sylw pellach tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau," meddai.
Yn 2013 cafodd Ian Watkins o Bontypridd ddedfryd o 29 mlynedd yn y carchar a chwe blynedd ar drwydded yn Llys y Goron Caerdydd am droseddau rhyw yn erbyn plant - roedd un o'r troseddau yn cynnwys ceisio treisio babi.
Wrth gyhoeddi'r ddedfryd dywedodd y barnwr: "Fe fydd unrhyw berson parchus sy'n gwrando ar yr achos yma yn ffieiddio mewn anghrediniaeth. Roedd gennych nifer fawr o gefnogwyr, ac roedd hynny'n rhoi grym i chi.
"Fe wnaethoch chi ddefnyddio'r grym i hudo cefnogwyr ifanc er mwyn cael at eu plant."
Cafodd dwy fenyw - mamau'r plant a gafodd eu cam-drin - eu dedfrydu i 14 ac 17 o flynyddoedd wedi iddyn nhw hefyd bledio'n euog i gyfres o gyhuddiadau.
Yn Awst 2023 roedd yna ymsodiad ar Watkins yn y carchar ond doedd ei anafiadau, bryd hynny, ddim yn bygwth ei fywyd.

Watkins yn perfformio yn Llundain cyn iddo gael ei arestio yn 2012
Yn ei 20au, gwerthodd Watkins filiynau o albymau ledled y byd ac roedd yn denu torfeydd i'w wylio.
Cafodd y grŵp Lostprophets ei ffurfio yn 1997. Fe wnaethon nhw ryddhau pum albwm - roedd un ohonyn nhw yn rhif un yn y DU ac fe gyrhaeddodd dwy sengl y 10 uchaf.
Mae ymchwiliad i farwolaeth Watkins yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2023
