Cadw Ysgol Llansteffan ar agor fyddai'r 'anrheg Nadolig gorau'

Pobl yn protestio dydd Mawrth
  • Cyhoeddwyd

Mae plant a rhieni Ysgol Gynradd Llansteffan wedi gofyn i Gyngor Sir Caerfyrddin am "yr anrheg Nadolig gorau" sef cadw eu hysgol ar agor.

Daw hyn ar ddiwrnod olaf y cyfnod ar gyfer cyflwyno gwrthwynebiadau i'r hysbysiad statudol i gau'r ysgol ddiwedd Awst 2026.

Wrth ganu carolau a chyflwyno cardiau Nadolig tu allan i Neuadd y Sir, Caerfyrddin ddydd Mawrth, fe alwodd rhieni, plant a ffrindiau Ysgol Llansteffan ar y cyngor i oedi'r cynnig.

Yn ôl y cyngor bydd yr holl sylwadau o'r cyfnod hysbysiad statudol yn cael eu hystyried cyn cael eu crynhoi mewn adroddiad i'w gyflwyno i'r cabinet.

Y cyngor llawn fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

ysgol llansteffan
Disgrifiad o’r llun,

Mae cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penderfynu cau Ysgol Llansteffan ddiwedd Awst 2026

Ddiwedd Tachwedd penderfynodd aelodau cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin gyflwyno hysbysiad statudol i gau Ysgol Llansteffan ddiwedd Awst 2026, gyda'r bwriad o drosglwyddo'r disgyblion i Ysgol Llangain.

Yn ôl ffigyrau'r cyngor, dim ond wyth disgybl oedd ar gofrestr Ysgol Llansteffan ar adeg cynnal cyfrifiad ysgolion mis Ionawr 2025, er bod capasiti ar gyfer 62 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2024/25.

Mae rhieni'r ysgol wedi bod yn dadlau, serch hynny, bod y ffigyrau wedi newid ers y cyfrifiad gydag 14 disgybl ar y gofrestr erbyn hyn.

'Gwrandewch ar y plant'

Fore Mawrth dywedodd Mared Lenny, sy'n rhiant yn yr ysgol eu bod hi'n bwysig dangos "nad adeilad yn unig yw Ysgol Llansteffan".

"Yn ystod y Nadolig, cawn ein hatgoffa o werthoedd gofal, caredigrwydd a gwrando ar ein gilydd - yn enwedig ar blant," meddai.

"Er hyn, nid yw'r plant sy'n cael eu heffeithio fwyaf wedi cael dweud eu barn yn ystod y cyfnod gwrthwynebu.

"Ni ddylid gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar blant heb wrando ar ei lleisiau."

baner

Yn ddisgybl yn yr ysgol, dywedodd Rosa, 9: "Fi ddim moyn i ti cau fy ysgol achos fi'n dwli arno fe a fi ddim moyn i ti cau e achos mae'r bobl yn yr ysgol hyn mor garedig i fi."

Ategodd Haf, 9, a Morfudd, 8 drwy ddweud: "Mae ysgolion bach yn bwysig i'r gymuned a phlant Cymru."

Ymysg rhai o'r ffactorau a nodwyd gan y cyngor dros gyhoeddi'r hysbysiad statudol i gau Ysgol Llansteffan roedd y nifer sylweddol o leoedd gwag yn yr ysgol, rhagolygon nifer y disgyblion "yn parhau i fod yn isel" a diffyg ariannol.

Yn ogystal ag Ysgol Llansteffan, mae dyfodol tair ysgol arall yn y sir hefyd dan fygythiad - Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn, Ysgol Meidrim ac Ysgol Pontiets.

Fel rhiant i ddisgybl yn Ysgol Pontiets, ymunodd Rhiannon Williams â chriw Ysgol Llansteffan i ddangos ei chefnogaeth i'r ysgolion bach.

"Fi'n credu bod y cyngor yn bod yn ddiog iawn yn dewis yr ysgolion bach i gau," meddai.

"Does dim prawf gyda nhw bod yr ysgolion bach yma yn gwneud colled ariannol ac yn rhoi addysg sydd ddim o ansawdd i'r plant, mae 'na'n rubbish llwyr.

"Ni 'ma i ddangos bod ni yma i gefnogi'n gilydd. Just achos bod ni'n fach, dyw e ddim yn golygu bod ni ddim yn gryf."

Protest

Roedd Sioned Hâf o Ddyffryn Tywi hefyd yn awyddus i ddangos ei chefnogaeth.

"Dwi'n dod o gymuned lle mae'r ysgol eisoes wedi cau. Nid yn unig yn ein pentref ni ond y pentref mwyaf cyfagos i ni hefyd, sy'n golygu bod y plant yn gorfod cael eu shippo mewn i'r ysgol agosaf.

"Ni wedi teimlo first hand beth mae e'n teimlo fel i golli ysgol a'r syniad yna o gymuned o gwmpas ysgol hefyd."

'Ddim yn gwneud synnwyr'

Mae Ffred Ffransis o Gymdeithas y Iaith yn gofyn beth yw'r pwynt bod un adran o'r cyngor yn datblygu tai fforddiadwy yn Llangain a Llansteffan er mwyn denu teuluoedd ifanc ac adran arall yn cau'r ysgol.

"Dyw e ddim yn gwneud synnwyr! Allwn ni ddim fforddio colli mwy o'n cymunedau gwledig Cymraeg," meddai.

"Yr hyn sydd eisiau nawr, yn y tri mis nesaf, cyn gwneud y penderfyniad ym mis Mawrth, yw i'r swyddogion a'r cynghorwyr drafod gyda'r rhieni yma."

Mewn datganiad, fe ddywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Ar ôl i'r cyfnod hysbysiad statudol ddod i ben, byddwn ni'n ystyried yr holl sylwadau sydd wedi dod i law.

"Bydd y rhain yn cael eu crynhoi mewn adroddiad i'w gyflwyno i'r cabinet ac yna'r cyngor llawn a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

"Mae'r ffigyrau a ddefnyddir yn yr holl ddogfennau o ran y papurau cynigion ac ymgynghoriadau yn seiliedig ar y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) diweddaraf a gynhelir ym mis Ionawr.

"Dyma'r ffigyrau i'w defnyddio i wneud penderfyniadau strategol ynghylch agor neu gau ysgolion.

"Mae hyn yn cael ei ystyried yn arfer da oherwydd bod y data hwn yn rhoi darlun llawn o'r sefyllfa addysg, yn seiliedig ar dystiolaeth.

"Mae nifer y disgyblion bob amser yn codi ac yn gostwng yn ystod y flwyddyn ac felly defnyddir y ffigur CYBLD bob amser fel y llinell sylfaen."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig