Beiciwr modur 'addfwyn' wedi marw wrth deithio adref o angladd

Cafodd Chris Bailey ei ddisgrifio fel "cawr addfwyn" gan ei ffrind
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr beic modur fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys, wedi cael ei ddisgrifio fel "cawr addfwyn" fyddai'n gwneud unrhyw beth i helpu rhywun arall.
Bu farw Chris Bailey yn y gwrthdrawiad ar yr A438 ddydd Gwener.
Roedd o'n teithio adref ar ôl bod mewn angladd bachgen, 14, o Bontypridd fu farw o glefyd motor niwron.
Roedd Mr Bailey yno fel rhan o lu o yrwyr beic modur oedd yn hebryngwyr er cof am Kyle Sieniawski.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A438 rhwng Y Clas-ar-Wy (Glasbury) a Chleirwy, yn agos at gartref Mr Bailey ger Y Gelli Gandryll.
Dywedodd Dominic Cross, aelod o'r grŵp beicio Powys y Valley Commandos, fod Mr Bailey yn "gawr caredig, addfwyn ac yn ddyn a fyddai'n gwneud unrhyw beth dros eraill".
'Bob amser yn barod i helpu'
Roedd o bob amser yn barod i helpu gyda chodi arian neu gefnogi pobl mewn angen, meddai Mr Cross.
Ychwanegodd fod Mr Bailey wedi cymryd diwrnod o'i waith er mwyn bod yn un o'r hebryngwyr yn yr angladd.
Mewn neges ar Facebook, diolchodd teulu Kyle i Mr Bailey am ei gefnogaeth ac am y rôl bwysig a chwaraeodd yn angladd Kyle, gan fynegi eu tristwch dwfn ei fod wedi marw ar y ffordd adref.
Mae Mr Cross, ffrind i Mr Bailey, wedi trefnu tudalen codi arian ar-lein i deulu Chris a'i ddau blentyn.
Er mai £2,000 oedd y targed gwreiddiol, mae dros £14,000 eisoes wedi'i godi.
Dywedodd Mr Cross fod yr ymateb i'r apêl wedi bod yn "anhygoel, ac yn dangos y gefnogaeth sydd gan y gymuned beicwyr modur at ei gilydd a'r hoffter ohono gan ei gyfeillion".
Ychwanegodd Mr Cross fod Mr Bailey "bob amser yn barod i helpu pan oedd y clwb beiciau modur yn codi arian ar gyfer unrhyw achos".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.