Ffioedd dysgu prifysgolion Cymru i gynyddu o fis Medi

Prifysgol CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y ffioedd dysgu uchaf yn codi o £9,535 i £9,900 y flwyddyn yn 2026/27

  • Cyhoeddwyd

Bydd ffioedd dysgu prifysgolion Cymru'n cynyddu o fis Medi ymlaen er mwyn cyd-fynd â'r cynnydd diweddar mewn ffioedd yn Lloegr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y cynnydd ar gyfer 2026/27 - ble mae disgwyl i'r ffioedd uchaf godi o £9,535 i £9,900 - yn dod wrth i brifysgolion barhau i wynebu heriau ariannol.

Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS, yn dweud y byddai cymorth ar gyfer costau byw'n cynyddu 2%, ac y bydd grantiau cynhaliaeth yn cynyddu am y tro cyntaf ers 2018.

Fis diwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai ffioedd dysgu'n cynyddu bob blwyddyn yn Lloegr yn unol â chwyddiant a hynny o 2026 ymlaen.

Bydd cymorth cynhaliaeth ar gyfer astudiaethau gradd meistr a doethuriaeth ôl-raddedig yng Nghymru hefyd yn cynyddu 2.0%.

Dywedodd Ms Howells y byddai'r benthyciad ffioedd dysgu rhan-amser mwyaf fydd ar gael yn codi £250 ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026/27.

Y cynnydd hwn i'r ffioedd dysgu fydd y trydydd cynnydd yn olynol ar ôl iddyn nhw gael eu rhewi ar £9,000 am sawl blwyddyn hyd at flwyddyn academaidd 2023/24.

Mi fydd y benthyciadau sydd ar gael i fyfyrwyr yn cynyddu i gyd-fynd â'r cynnydd hwn.

Mewn datganiad dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS, bod gan Lywodraeth Cymru "hanes cryf o helpu unigolion i fuddsoddi yn eu dyfodol".

Ychwanegodd eu bod yn awyddus i helpu "sicrhau bod pawb, waeth beth fo'u cefndir, yn gallu dysgu drwy gydol eu bywydau".

'Diogelu'r profiad i fyfyrwyr'

Mae'r sector addysg yng Nghymru wedi wynebu cyfnod anodd yn ddiweddar gyda mwyafrif prifysgolion Cymru'n ystyried diswyddo staff oherwydd pwysau ariannol.

Dywedodd Ms Howells ei bod yn ymwybodol o'r "heriau ariannol sy'n wynebu'r sector addysg uwch yng Nghymru ac rwyf wedi ymrwymo i'w helpu i reoli'r heriau hyn".

"Mae'r buddsoddiad parhaus hwn yn sector addysg uwch Cymru yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu sefydliadau wrth iddynt fynd i'r afael â chostau cynyddol, gan ddiogelu'r ddarpariaeth a'r profiad i fyfyrwyr.

"Mae addysg uwch yn parhau i fod yn allweddol i uchelgeisiau'r Llywodraeth hon," ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgolion Cymru eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad.

"Mae yna gryn lawer o dystiolaeth ynghylch y pwysau ariannol sy'n wynebu'r sector prifysgolion, ac mae hyn yn cynrychioli cam angenrheidiol, er nad yw'r unig un, at helpu i fynd i'r afael â'r pwysau hwnnw a sicrhau cynaliadwyedd hir-dymor y sector."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig