BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2003

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Urdd 2003
O'r Maes
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Breichiau agored ym Môn

Stondin Môn ym Margam - Helen Evans, is-gadeirydd pwyllgor gwaith Môn a David Gwyn John un o is-lywyddion yr Urdd.Darluniwyd y ddwy bont dros Afon Menai fel breichiau agored yn ymestyn i groesawu pobl i Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn mewn cyflwyniad gan blant yr Ynys.



Yr oedd 110 o blant a phobl ifanc wedi teithio'r holl ffordd o Fôn i Brifwyl Margan i gadarnhau'r croeso hwnnw ac i wahodd Cymru gyfan i Brifwyl yr Urdd 2004 ar faes Cymdeithas amaethyddol Mona.

Cyfansoddwyd cerdd ar gyfer yr achlysur gan Mei Mac a 15 o ddisgyblion o ysgolion uwchradd y sir ac un o'r disgyblion hynny a gynigiodd y ddelwedd o'r ddwy bont fel dwy fraich agored sy'n gychwyn i'r gerdd.

Mae dwy fraich dros donnau y Fenai
Mae ynys y Medra'n eich galw dros Gymru i gyd,
Mae Mam eto'n galw, yn galw gan annog ei phlantos
I ddod yn eu heidiau i ddangos eu doniau i'r byd.

Cyfansoddwyd cerddoriaeth i gydfynd a'r gerdd, sy'n cael ei chyhoeddi'n gyflawn yn y rhestr testunau, gan gyfansoddwr cyfoes amlycaf yr ynys, Gareth Glyn cerddoriaeth sy'n cychwyn gyda seiniau celtaidd gan gyrraedd penllanw o gerddoriaeth fodern yn amrywio o jazz i ddawns.

I berfformio'r gwaith ar lwyfan Margam roedd band jazz Môn dan arweiniad Gwyn Evans, aelodau o Theatr Ieunenctid Môn dan arweiniad Nest Llywelyn Jones.

"Y syniad yw fod y gerddoriaeth yn symud yn raddol o'r hynafol i'r cyfoes ac felly roedd yn rhaid i'r alaw fod yn addas ar gyfer pob un arddull," meddai Gareth Glyn.



Cefndir
Chwedlau'r ardal

Arlwy'r wythnos

Y Steddfod ar y wal

Maes godidog

Yn yr awyr iach a Thir na n-Og

lluniau'r wythnos
Brasgamu ym Margam (1)

Brasgamu ym Margam (2)

Brasgamu ym Margam (3)

Brasgamu ym Margam (4)

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau o'r Eisteddfod

Lluniau dydd Mercher

Lluniau dydd Iau

Arddangosfa Celf a Chrefft

Lluniau Crysau-T

Lluniau dydd Gwener

Lluniau dydd Sadwrn

Cysylltiadau eraill
Enillwyr llwyfan
 


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy