Mudiadau plant
Adnoddau a chysylltiadau
'Ryn ni wedi rhestru nifer o fudiadau sy'n cynnig cefnogaeth a chyngor i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Os hoffech ychwanegu eich mudiad chi at y dudalen hon, cysylltwch gan roi disgrifiad byr a manylion cyswllt.
Gweithredu Dros Blant
Mae Gweithredu Dros Blant yn cynorthwyo plant a phobl ifanc bregus, yn enwedig y rheiny sydd newydd adael gofal neu sydd ag anableddau. Mae ganddynt swyddfa yng Nghaerdydd. Gwefan Saesneg ei hiaith yw hon.
Barnardo's Cymru
Elusen sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau difreintiedig a bregus ar draws Cymru a gweddill y DU. Mae eu prif swyddfa Cymreig yng Nghaerdydd ond mae ganddynt brosiectau ar draws y wlad, gan gynnwys canolfannau teulu, cynlluniau gofalwyr ifanc, a gwasanaethau maethu a mabwysiadu.
BBC: Gât yr Ysgol
Gwefan sy'n cynnig cyngor i rieni ar agweddau gwahanol o fywyd ysgol - o ddewis pynciau TGAU i ddelio gyda bwlio, helpu gyda gwaith cartref a bod yn llywodraethwr.
Childline Cymru
Gwasanaeth ffôn sydd ar gael 24 awr y dydd, yn rhad ac am ddim i blant sy'n poeni neu sydd mewn peryg. Mae'n delio gydag ystod eang o broblemau fel bwlio, beichiogrwydd, cyffuriau, camdrin ac iselder. Mae gan Childline 14 o ganolfannau ar draws y DU gan gynnwys Abertawe a Phrestatyn.
Plant yng Nghymru
Elusen gofrestredig yn cynrychioli grwpiau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws Cymru. Mae dogfennau defnyddiol i rieni i'w cael yn rhad ac am ddim ar y wefan.
Comisynydd Plant Cymru
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i benodi Comisynydd Plant i gynrychioli ac i amddiffyn buddiannau pobl ifanc. Mae staff y Comisynydd yn cynnal gwasanaeth ffon sy'n rhoi cymorth a chyngor i blant ac oedolion.
Draig Ffynci
Sefydlwyd y Ddraig Ffynci gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn rhoi llai i blant a phobl ifanc yn y broses wleidyddol. Mae 100 o bobl ifanc 11-25 oed yn aelodau o'r Prif Gyngor sy'n cwrdd yn rheolaidd i drafod materion perthnasol.
Bara Sinsir/Gingerbread
Sefydlwyd Gingerbread yn 1970 i helpu teuluoedd un rhiant ar draws y DU. Mae'n darparu rhwydwaith o grwpiau lleol ac yn cynnig cefnogaeth a hyfforddiant i rieni sengl. Unodd gyda mudiad Teuluoedd Un Rhiant yn 2007. Gwefan Saesneg ei hiaith yw hon.
Chwarae Cymru
Mae Chwarae Cymru yn cael ei ariannu yn bennaf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac fe gyfranodd yn helaeth at lunio'i Polisi Chwarae yn 2002. Mae nifer o daflenni gwybodaeth yn ymwneud â phlant a chwarae i'w cael ar y wefan.
NSPCC
Nod Cymdeithas Achub y Plant yw atal creulondeb i blant a chynnig cymorth a chefnogaeth i deuluoedd. Mae ei llyfrgell electroneg yn cynnwys dros 30,000 o adnoddau gwahanol ar ddiogelu plant.
Achub y Plant Cymru
Dechreuodd Achub y Plant weithio yng Nghymru yn y 1920au, gan estyn cymorth i deuluoedd glowyr mewn ardaloedd tlawd. Mae'r mudiad bellach yn gweithio gyda plant a phobl ifanc bregus, gan gynnwys plant ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a'r rheiny sy'n byw mewn tlodi. Gellid lawrlwytho dogfennau am waith Achub y Plant o'u gwefan.
Tros Gynnal
Sefydlwyd Tros Gynnal yn 2002 i ymgyrchu o blaid hawliau plant Cymru a hynny yn sgil penderfyniad Cymdeithas y Plant i gau eu swyddfeydd yng Nghymru. Mae'r elusen yn cefnogi a chynrychioli plant a phobl ifanc fregus trwy gyfrwng prosiectau, hyfforddiant ac ymgyrchoedd gwahanol.
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad eu Cynllun Gweithredu Rhianta yn 2005. Mae'n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, a'i nod yw rhoi cyngor a gwybodaeth i rieni. Mae'r Llywodraeth hefyd wedi mabwysiadu Polisi Chwarae ac wedi addo dileu tlodi plant erbyn 2020.
Dweud eich dweud
Cyfle i gysylltu
Roedden ni'n awyddus i ysgogi sgwrs a chlywed gan ein cynulleidfa.

