Dewch am daith o amgylch Tŷ Aberconwy, un o dai hynaf yr ardal. David Jennings, ceidwad yr adeilad, sy'n adrodd yr hanes.
Tŷ Aberconwy yw'r tŷ hynaf yng Nghonwy. Cafodd ei adeiladu yn y 1280au ar ôl i Edward I gynnig tir i'r Saeson ddaeth i helpu adeiladu'r castell. Mae'r gwaith cerrig yn debyg iawn i'r gwaith ar y castell ei hun, yn enwedig ar lawr cyntaf y tŷ.
Mae'r tŷ yn lwcus iawn i oroesi'r canrifoedd, yn enwedig yn ystod yr oes Fictoraidd pan gafwyd gwared â rhan fwyaf o adeiladau Canoloesol Conwy, i wneud lle i dai tri llawr, fel sydd ledled y dref heddiw. Ddaru'r tŷ hefyd wrthsefyll y llosgi mawr yn y 14edd ganrif pan ymosododd Owain Glyndwr a'i ddynion ar Gonwy.
Er nad oes recordiau o bwy oedd yn byw yn y ty am y 300 mlynedd gyntaf, rydym yn sir mai cartref i deulu ofasnachwr oedd o, gyda siop ar y llawr cyntaf. Byddwn yn dweud wrth blant ysgol sy'n ymweld â'r tŷ ei fod fel Tesco'r Canol Oesoedd - siop oedd yn gwerthu popeth - dillad, bwyd, deunydd adeiladu.
Yr enw cyntaf sy'n troi fyny mewn cysylltiad â'r tŷ yw Evan David, oedd yno yn ystod y Rhyfel Cartref. Yna, daeth Samuel Williams yn berchennog ar y siop - y naill a'r llall yn llwyddiannus iawn.
Mae'r gegin wedi bod yn gegin am 700 o flynyddoedd, ac mae yna ffynnon jest y tu allan. Byddent yn cadw'r bara mewn cawell bren ger y to er mwyn ei amddiffyn rhag y llygod a'r llygod mawr. Byddai pobl yn y Canol Oesoedd yn bwyta lot o fara - efallai dwy dorth y dydd. Efallai byddent hefyd yn rhoi cwningen neu ysgyfarnog yn y pot coginio ar ddiwrnod da.
Rhwng 1815 a 1910, defnyddiwyd y tŷ fel rhan o westy dirwest. Roedd yna bopty ar y llawr gwaelod, ystafelloedd croeso i'r gwesty ar y llawr gyntaf, a lle i'r teulu fyw i fyny grisiau. Byddai'r gwesteion yn aros mewn ystafelloedd yn yr adeiladau Fictoraidd sy'n gyswllt a Thŷ Aberconwy. Mewn gwesty dirwest, byddai'r gwestai yn cytuno i beidio ag yfed alcohol wrth aros yna, na chwaith ar ôl iddynt ddychwelyd adref. Roedd yn draddodiad o symudiad yr anghydffurfwyr yn yr 19eg ganrif.
I fyny'r grisiau y mae'r llofft fawr. Mae'r trawstiau pren yn y nenfwd yn dyddio yn ôl i'r 14eg ganrif ac maent mewn siâp A (a-frame). Roedd y steil yma yn boblogaidd yn Lloegr, sy'n adlewyrchu'r math o bobl ddaru adeiladu'r tŷ.
Mae yna hefyd frwynen mewn daliwr metal ar y bwrdd - caiff hwn ei ddefnyddio fel cannwyll. Gan fod rhaid talu treth ar ganhwyllau gwêr, byddent yn anfon y plant i'r afon, hel brwyn, ei orchuddio mewn braster anifail neu olew pysgod a'i losgi. Roedd yn ddrewllyd, ond yn rhad! Roedd bosib llosgi dau ben y gannwyll hefyd, er iddo losgi llawer yn gyflymach wrth wneud hyn. Ond dyna le ddaw'r dywediad, burning the candle at both ends.










