Ewch nôl mewn amser efo dillad Treflyn"Dwi wedi bod yn canu erioed. Roeddwn yn canu bob math o ganeuon - rhai Cymraeg, Saesneg, gwerin, canol y ffordd - lobsgows o ganeuon a dweud y gwir.
"Mi ddechreuais drwy fynd rownd capeli a chyngherddau yn y 1970au, ac mi wnes i ymddangos ar raglenni fel Disg a Dawn efo Dewi Pws, Meic Stevens, Huw Jones a Tony ac Aloma.
"Un noson ar gychwyn fy ngyrfa roeddwn yn perfformio yng ngwesty Maes Mawr yng Nghaersws - yr adeg honno jest trowsus a chrys roeddwn yn ei wisgo. Mi ddaeth boi efo gwallt 'cyrli wyrli' i mewn, efo dynas glamorous blond - pwy oedd o ond Gordon Mills, rheolwr Tom Jones. Mi ddaru ddweud wrtha i bod rhaid i mi gael delwedd - wrth berfformio, mae'n bum deg y cant sut rydach chi'n edrych a phum deg y cant syt rydach chi'n swnio, meddai. Felly mi es i allan i ffeindio delwedd newydd i mi fy hun.
"Mi wnes i ddod o hyd i foi o'r enw Colin Wilde mewn cylchgrawn o Lundain oedd yn gwneud jumpsuits ac mi ddaru anfon ychydig o luniau i mi, a minnau'n eu haltro nhw i fy siwtio. Erbyn hyn mae gen i tua saith siwt - rhai gwyn, du, pinc, leilac. Gimic oedd o i dynnu sylw a chreu delwedd i mi fy hun.
"Roedd gen i lwyth o wallt yr adeg honno - mi fyddwn yn rhoi highlights golau ynddo a'i sbeicio i fyny, fel Rod Stewart!
"Roeddwn wastad yn gwisgo dillad oedd yn addas i fy nghorff i, fel boi tal a thenau. Byddwn hefyd yn gwisgo sodlau platfform gwyn neu ddu! Mi fyddaf yn cario llwyth o ddillad ac esgidiau efo fi wrth fynd i berfformio - o leiaf pum outfit fel dewis.
"Erbyn yr wythdegau roeddwn yn gwisgo trowsus oedd yn llac ar y top a chul ar y gwaelod a siacedi efo ysgwyddau mawr.
"Dwi'n dal i ganu, er nad oes dim gymaint o alw am ganu fel 'na gan fod karaoke wedi cymryd drosodd - pawb â'u backing track eu hunain.
"Ond mae fy mab, Aron mewn band - roedd o efo Pep le Pew ac mae o rŵan wedi ffurfio band newydd, Y Rei. Dwi ddim yn gwybod os ydy fy math i o gerddoriaeth wedi dylanwadu arno ond byddai'n dod rownd efo fi wrth i mi berfformio. Ond dydy o ddim yn gwisgo jumpsuits pinc!"
Cyfeiriad ebost Treflyn Jones: [email protected]