BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clawr Fight Night Gemau cyfrifiadurol
Dyma Tomos Owens yn cymryd cip ar y gêm Fight Night ar ran ffans gemau cyfrifiadurol.

Mae'r gêm Fight Night yn gêm focsio gan y cynhyrchwyr EA Games. Mae'r gêm ar gael ar gyfer Playstation 2 a'r XBOX, ac yn costio oddeutu £39.99.

Bocsio, yn amlwg yw pwrpas y gêm hon. Fe allwch ddewis unrhyw focsiwr o 32 o focswyr trwyddedig (go wir), neu fe allwch greu bocsiwr eich hun. Gallwch gymryd rhan mewn gornestau yn erbyn bocswyr eraill, neu ymarfer i wella eich bocsiwr chi.

Nodwedd newydd yn y gêm hon yw 'total punch control'. Dyma'r tro cyntaf i'r nodwedd yma gael ei ddefnyddio mewn gemau bocsio, ac mae'n gweithio yn effeithiol iawn. Mae'n eich galluogi i reoli yn union ble rydych yn anelu dyrnau eich bocsiwr.

Mae graffeg y gêm yn wych, gyda'r bocswyr a'r stadiwm bocsio trwyddedig yn edrych yn union fel y maent go iawn. Mae'r sain yn wych hefyd, gyda chaneuon gan fandiau enwog gan gynnwys N.E.R.D.

Fe all y gêm yma barhau am byth gan eich bod yn gallu cael gornest ar unrhyw adeg.

Buaswn i'n bersonol yn marcio 9/10 i'r gêm hon. Os ydych yn hoffi bocsio, yna mae'r gêm hon yn angenrheidiol i chi!



Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy