Sut i gyrraedd mewn car
Wrth yrru ar hyd yr A55, ewch dros Bont Britannia. Yna, gadewch yr A55 ar gyffordd 6 lle mae arwydd am Rostrehwfa A5, Llangefni A5114. Cymerwch y pedwerydd troad oddi ar y trogylch (A5), yna'r ail droad ar y trogylch nesaf (A5114). Dilynwch y ffordd yma i ganol Llangefni. Prif atyniadau
Cynhelir marchnad yn Llangefni bob dydd Iau a dydd Sadwrn, yng nghanol y dref gyferbyn â Neuadd y Dref.
Yn agos i ganol tref Llangefni mae gwarchodfa natur y Dingle. Gyda chymorth Cydcoed, mae Cyngor Sir Fôn wedi ehangu'r ardal yma, gan greu llwybrau a phontydd pren sy'n addas ar gyfer pobl gydag anabledd.
Mae'r warchodfa yn gartref i adar fel glas-y-dorlan, ieir dŵr, sigl-i-gwt, hwyaid gwyllt a chnocell y coed.
Heb fod ymhell o Langefni mae Parc Henblas, lle gellir dysgu am ffermio, gwylio cŵn defaid wrth eu gwaith a bwydo ŵyn bach yn y gwanwyn.
Atyniad arall yw Oriel Môn, sy'n cynnal arddangosfeydd ac yn gwerthu celf a chrefft lleol.
Cynhelir Gŵyl Cefni bob mis Awst, gyda cherddoriaeth ac adloniant yn ar gae Sioe Môn ym Mona gyda'r nos.
Yn Llangefni hefyd mae parc bwrdd-sglefrio mwyaf ar yr ynys, y tu allan i Ganolfan Hamdden Plas Arthur.
Cyfeiriadau defnyddiol
Canolfan Hamdden Plas Arthur
Penrallt, Llangefni, Sir Fôn, LL77 7QX
01248 722966
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW
01248 750057Parc Henblas
Bodorgan, Sir Fôn, LL62 5DL.
01407 840440
Oriel Môn
Rhosmeirch, Llangefni, Sir Fôn, LL77 7TQ
01248 724444
Llyfrgell
Lôn-y-Felin, Llangefni, Sir Fôn, LL77 7RT
01248 752095
Ysbyty Cefni
Bridge St, Llangefni, Gwynedd LL77 7PP
01248 750117