|
"Mi ddechreuais i ddysgu Cymraeg tua 1975 mewn ysgol nos yn Llanystumdwy ac fe fuais i yng Ngholeg Glyn Llifon hefyd - roedd cwrs da iawn yno. Yn ystod fy nghyfnod ar y cwrs hwnnw, fe es i Nant Gwrtheyrn - ni oedd un o'r grwpiau cyntaf i fynd yno wedi iddo agor. Erbyn hyn rydw i'n dysgu Cymraeg ar-lein.
"Roedd fy nhad yn Gymro o Lerpwl ac fe dyfais i fyny yn Lerpwl gan symud i Borthmadog yn 1970. Fe fuon ni'n rhedeg guest house yn Prenteg ac yna yng Ngriccieth. Mi fuais yn rhedeg y Towers am flynyddoedd, oedd yn cael gwyntoedd ofnadwy o gryf o'r môr oedd yn ysgwyd y ffenestri. "Rydw i'n galw fy hun yn un o Gymry Lerpwl: Liverpool Welsh ydy sut rydw i'n disgrifio fy hun. Yr unig Gymraeg rydw i'n cofio ei glywed yn blentyn ydy "Tyrd yma!". Roedd tad fy nhad yn siarad Cymraeg ac o Lansanffraid yn wreiddiol.
"Mae Cricieth yn lle ffantastic i fyw - fel Gardd Eden i mi. Mi fuais i ffwrdd i fyw am gyfnod ac yna dod nôl a gwerthfawrogi'r lle yn llawer mwy. "Mae'r bobl yma yn wych - rhy wych weithiau am eu bod yn rhy fodlon i droi i'r Saesneg! Maen nhw'n cymryd piti arna i ac yn newid i siarad Saesneg - mi allwn i sgrechian weithiau! Dydw i byth yn cael cyfle i siarad Cymraeg yma. Fe ddylwn i gymryd lojar sy'n siarad Cymraeg, fe fyddwn i'n rhugl wedyn!"
 |