  |
 |
 |
Gwobrwyo gwasanaeth hir i'r seindorf Yn ystod cyngerdd blynyddol Seindorf Deiniolen fis Ebrill 2004, cafwyd gwobrwyo go arbennig. |
 |
 |
 |
Mae hi bellach dros 30 mlynedd ers i Mr. Meirion Jones a Mr. Hefin G. Jones gychwyn ar eu swyddi fel Ysgrifennydd a Thrysorydd. Teimlad pawb sy'n gysylltiedig â'r band oedd y dylai'r ddau dderbyn rhodd fel arwydd o'u gwasanaeth gwerthfawr dros y blynyddoedd. Gwnaed casgliad, ac fe brynwyd oriawr boced i'r ddau ohonynt, gyda'r negeseuon canlynol wedi'u torri ar gefn yr oriawr: Cyflwynwyd i Hefin G. Jones, Ebrill 2004, fel arwydd o ddiolch a chydnabyddiaeth am dros 30 mlynedd o wasanaeth di-dor fel Trysorydd Band Deiniolen. Cyflwynwyd i Meirion Jones, Ebrill 2004, fel arwydd o ddiolch a chydnabyddiaeth am dros 30 mlynedd o wasanaeth di-dor fel Ysgrifennydd Band Deiniolen.Gofynnwyd hefyd i'r Prifardd David John Prichard gyfansoddi englyn ar gyfer yr achlysur: Rhoi'r ardal ar bob dalen a wnaethant I'r eithaf yn llawen; Dau yn hael i'w Deiniolen O wneud eu gwaith gyda gwên. Y Prifardd David John Pritchard Cafwyd noson fyth-gofiadwy y nos Sadwrn ganlynol, 24 Ebrill 2004, yng Ngwesty'r Anglesey Arms, Porthaethwy, i dalu teyrnged i Meirion a Hefin. Cafwyd amser difyr iawn yn edrych yn ôl ar hanes y Band, ynghyd a llawer o dynnu coes! Cewch weld lluniau'r noson ar y wefan. (dolen ar y dde). Hoffai pwyllgor a band Deiniolen ddiolch o galon i Meirion a Hefin am eu holl waith dros y blynyddoedd.
 |
 |
 |
 |
 |  |
Cyfrannwch i'r dudalen hon!
|
 |
|
|
|