"Harmoni tri llais Bedwyr, Simon a minnau yw un o'r nodweddion a wnaeth Mojo'n wahanol i'r rhelyw o grwpiau roc Cymraeg a bu'r 20 mlynedd diwethaf yn rhai o harmoni llwyr i'r grŵp.
"'Dim ond awr tan y garej 24 awr', meddai llais o gefn y bws bach; yr un oedd y gri wedyn bob chwarter awr.
"'Ydi honno'n agored drwy'r nos?' meddai un o'r rodis yn ddifrifol - ac yna chwerthin afieithus am chwarter awr arall - felly bu unrhyw siwrnai bws.
"Mae'r Neges yn Glir oedd y caset 4 cân cyntaf a gyhoeddwyd yn annibynnol gan y grŵp ac fe'i darlledwyd gyntaf yn ecscliwsif ar Radio Cymru. Bu pob siwrnai'n llawn hwyl ac yn ddi-gyffur - neges glir arall i bobl ifanc!
"Ar ôl cyhoeddi'r albym gyntaf yn ystod haf 1988 - yr LP (record) olaf yn Gymraeg - prysurodd y grŵp yn arw a llwyddwyd i agor pob sioe ar daith Jim O'Rourke, Y Bont, yn gynharach yn y flwyddyn.
"Roeddan ni isio dod â 'chydig o sglein i'r byd pop ac mi 'roedd hynny'n golygu llawer o waith caled wrth ymarfer harmoni lleisiol ac offerynnau
amrywiol y grŵp.
"Llwyddwyd i ddenu un o brif chwaraewyr sacsoffon Iwerddon, Keith Donald o'r grŵp arloesol Moving Hearts i chwarae ar bob un o'r albyms."
"'Pan fydd o o gwmpas 'rydym ninnau isio chwarae ar ein gorau hefyd,' meddai Bedwyr, y prif leisydd a'r gitarydd blaen a ffurfiodd Mojo efo'i ffrind ysgol, y drymiwr Peter Elias Jones yn Llangefni, tref enedigol Bedwyr, Simon a minnau, a'r dref fu'n ganolfan i'r hogia o'r dechrau.
"Yn 1990 cyhoeddwyd y CD cynta yn y Gymraeg, Awn Ymlaen Fel Hyn - llond albym arall o stwff masnachol yn trafod perthynas bersonol yn ogystal â phynciau'r dydd a chynefin a chymuned y bechgyn.
"Y 90au oedd cyfnod prysuraf y grŵp pan oedd llwythi o raglenni teledu a neuaddau led led Cymru'n llawn o ieuenctid oedd yn barod i wrando a dawnsio - elwodd pob grŵp yn y cyfnod cynhyrfus hwn ddechrau'r 90'au.
"Tra'r oedd llawer o grwpiau'n rhoi'r gorau i rocio parhau wnaeth brawdgarwch a chyfeillgarwch Mojo a esgorodd ar albym arall, Tra Môr ..., yn 1996 oedd yn llawn eto o ganeuon bachog ymhob ystyr, Rhy Hwyr yn eu plith.
"Ond dydi hi byth yn rhy hwyr i Mojo - cyhoeddwyd CD 'Americaneg' ei hiaith yn 2001 a glodforwyd gan y wasg Saesneg fel un o CD's canu gwlad roc gorau a mwyaf gwreiddiol Gwledydd Prydain. Dywedodd Randy Owen, prif leisydd y grwp Alabama, sydd o dras Cymreig, ei fod wrth ei fodd efo'r CD.
"Mae 2006 yn golygu parti trwy'r flwyddyn i Mojo gan gynnwys cyngerdd dathlu arbennig, rhannu llwyfan efo prif enwau mawr y fam-ynys ar faes Sioe Môn ar Fai 6, canu yng ngŵyl canu gwlad rhyngwladol Iona ac Andy efo'r Bellamy Brothers ar Awst 4 a gweithio ar ein CD cyntaf ers 10 mlynedd a chyhoeddi'r casgliad cyn y Nadolig."
Disgograffi Mojo:
Mae'r Neges Yn Glir (caset) 1986 (Mona)
Rhydd Rhyw Ddydd (LP/ caset) 1988 (Sain)
Awn Ymlaen Fel Hyn (CD/caset) 1990 (Sain)
Tra Môr... (CD/caset) 1996 (Sain)
Highway to Your Heart (CD) 2001 (Sain)
Mojo ym Mryn Meirion (CD) 2005 (Mona)
Aelodau:
Bedwyr Morgan - prif lais/gitâr flaen/cynhyrchydd
Simon Barton - offer taro/llais
Peter Elias Jones - drymiau
Ken Jones - allweddellau/gitâr
Tudur Morgan - bâs/gitâr/llais/cynhyrchydd
John Williams - piano, organ, synth
gyda
Keith Donald - sacs
Dave Rowland - gitâr ddur.