BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Martins4 Cyngerdd Martins4
Pedwar yn dod â gwres i noson oer ym Mangor
Adolygiad Dafydd Meirion o noson gyda phedwar gitarydd dawnus yn Theatr Gwynedd, Bangor:
Efallai ei bod hi'n noson oer, rewllyd y tu allan, ond roedd hi'n noson gynnes braf yn Theatr Gwynedd, Bangor.

Nid yn unig oherwydd fod y theatr yn llawn i'w hymylon, ond fod y gerddoriaeth wedi mynd â ni i Sbaen, Awstralia, y Caribî a New Orleans. Martins4 oedd yn perfformio yno - grŵp o bedwar gitarydd a'r pedwar yn amlwg yn eu meysydd.

Martin Carthy ddaeth ymlaen gyntaf, gan gerdded yn hamddenol i'r llwyfan yn ei jîns a'i grys sgwariau. Mae Carthy yn arbenigwr ar ganu gwerin Saesneg a dyna gawson ni'n bennaf ganddo.

Dechreuodd efo Wife of Usherwell. Er mai alaw o Wlad y Basg oedd hi meddai, roedd hi'n nodweddiadol o ganu gwerin Saesneg gyda'r geiriau'n cael eu dal a'u gwasgu - a rhaid cyfaddef y buasai wedi bod yn well pe byddai wedi canu llai o benillion gan ei bod braidd yn undonog a difflach. Byddai'n llawer gwell i gen i wrando ar Meic Stevens!

Alaw dawns Morris gawson ni nesaf - Cuckoo's Nest; roedd hon ychydig yn fwy bywiog ac yn rhoi cyfle i Carthy ddangos ei feistrolaeth o'r gitâr, yn chwarae cordiau ac yn pigo'r tannau'r un pryd.

Yna i gân werin arall nodweddiadol Seisnig, Jim Jones in Botany Bay. Roedd hon eto'n undonog ac yn rhy hir. Ond dyna fo, nid yw canu gwerin Saesneg at fy nant.

Gorffennodd ei set gyda The Harry Lime Theme o'r ffilm The Third Man. Zither ddefnyddid ar y gân yma'n wreiddiol a gwnaeth Carthy ei orau i efelychu'r offeryn hwnnw gyda'i gitâr, ond eto di-fflach oedd y canu ac yntau i'w weld yn ymdrechu'n rhy galed.

Rŵan, pe byddai Martin Taylor wedi chwarae'r gân yma, mi fydden ni wedi cael rhywbeth tra gwahanol. Roedd y gitarydd jazz yn edrych yn wahanol hefyd, gyda'i siwt dywyll a'i gitâr drydan. Dechreuodd efo Don't Know Why, a dyma at fiwsig jazz, llawn bywyd, llawn lliw, gyda'i fysedd yn rhedeg yn chwim ar draws y ffretiau. Gwaeddodd un o'r gynulleidfa arno i ganu I Got Rhythm, ond alaw a sgwennodd ei hun gawson ni nesaf, cân â naws Albanaidd/Geltaidd iddi, One Day.

Doedd hon ddim mor fywiog, ond cododd y tempo gyda chân arall o'i eiddo, calypso o'r enw Down at Kokomo's, oedd yn sôn am far yn Barbados. Unwaith eto, dangosodd feistrolaeth o'i gitâr yn pigo'r tannau i roi sŵn steel drums i ni. Rhaid cyfaddef, mi fyddwn wedi hoffi cael rhagor o jazz ond cerddoriaeth o Sbaen gawson ni nesaf.

Juan Martin ddaeth i'r llwyfan gan ddechrau efo cân o Andalucia; cân nodweddiadol Sbaenaidd gyda bysedd ei law dde yn taro'r tannau'n wyllt. Roedd yr ail gân yn adlewyrchu dylanwad y Mwriaid ar Sbaen, ac wir roedd yna fwy o awyrgylch bazzar yng ngogledd Affrica na bar ym mynyddoedd Sbaen ar y gân. Unwaith eto, dangosodd ei feistrolaeth o'r math yma o ganu.

Roedd ei gân olaf yn rhumba, ac yn nodweddiadol o ganu De America. Roedd yna dipyn o fynd yn hon, efo ail hanner y gân ar brydiau yn jazzaidd, a dechreuodd y gynulleidfa guro dwylo i guriad y gân. Bu ond y dim imi godi i ddawnsio, ond doedd gen i ddim jygiad o sangria wrth law.

Wedi toriad, daeth Martin Simpson i'r llwyfan. Cafwyd cymysgedd o ganeuon ganddo, yn amrywio o ganu gwerin Lloegr i ganeuon â dylanwad America arnyn nhw. Dechreuodd efo gitâr slide ddistaw oedd yn rhoi ymdeimlad o fod yn nhaleithiau poethion America, yna datblygodd A Blacksmith Courted Me yn gân werin Seisnig, gyda Simpson yn pigo'r tannau'n gelfydd.

Cân gan Bob Dylan gafwyd ganddo nesaf, Adieu Sweet Lovely Nancy, a honno'n cael ei chwarae yn y dull hillbilly. Gorffennodd ei set gyda chân o Nova Scotia o'r enw Caledonia. Cafwyd pigo tannau celfydd, ond braidd yn rhy hir oedd y gân.

Yna, ymunodd y tri arall ag o ar y llwyfan. Dechreuwyd efo cân Brasilaidd ei naws o eiddo Juan Martin; y Sbaenwr a Taylor yn chwarae'r alaw, gyda'r ddau arall yn cyfeilio. Cân fywiog, rythmig iawn. Yna cyfuniad o flamenco a slide a Simpson yn llithro gwddw potel - wel darn o biben ddur o leiaf - ar hyd y tannau. Cyflymodd ail hanner y gân gyda Taylor yn jazzio'r alaw a'r gynulleidfa'n curo'u dwylo i'r curiad.

Cân o eiddo Martin Carthy gafwyd nesaf, cân o Wlad Groeg gyda geiriau gan Sais, cân o'r enw A Glass of Water. Roedd hon, er y cyfeilio celfydd, braidd yn undonog gyda Carthy yn ail adrodd "I want a glass of water," ac yn wir bu bron i mi gerdded i'r tŷ bach i nôl un iddo er mwyn i ni gael symud i'r gân nesaf. Alaw Morris arall, Princess Royal, oedd hon, gyda Carthy a Simpson yn dangos eu doniau, a rhaid cyfaddef mai hon oedd uchafbwynt chwarae Carthy ar y noson gyda'i bigo a'i gordio celfydd. Yn ddiweddarach yn y gân, ymunodd y ddau arall i chwarae'r alaw a chododd y tempo gan arwain at i bawb guro'u dwylo'n gyfeiliant.

Cân Sbaenaidd arall gafwyd i gloi, gyda Martin yn chwarae'r alaw yn gelfydd.

Daeth diwedd i berfformiad Martin4, ond doedd y gynulleidfa ddim wedi cael digon. Roedd pawb ar eu traed yn gweiddi am ragor, ac o'r diwedd mi ddaethon nhw'n ôl ac at gân blues 12 bar a sgwennodd Simpson yn New Orleans roddodd gyfle i Taylor ddangos ei ddawn - o, na chawson ni ragor o hyn yn ystod y noson!

Yn wir, roedd y pedwar yn feistri yn eu meysydd, ond ei bod yn rhaid i chi fod yn hoffi'r pedwar maes yma. Rwyf eisoes wedi dangos fy rhagfarn tuag at ganu gwerin Seisnig - mewn bar tywyll gyda pheint o gwrw fflat ddylai'r math yma o ganu fod gan ei fod yn gallu bod yn undonog ar brydiau. Am weddill y perfformiadau - gwych. Os ydych yn hoffi cerddoriaeth gitâr, dyma'r fath o noson i chi, gan fod chwarae Taylor a Juan Martin yn anhygoel - yn ddigon i gynhesu enaid unrhyw un - boed hi'n noson oer ai peidio.

Theatr Gwynedd, 12 Mawrth 2004.



Radio Cymru
Digwyddiadau
Adolygiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy