Côr y Brythoniaid
Arweinydd: John Eifion Jones
Cyfeilydd: Elisabeth Ellis
Ffurfiwyd: 1964
Aelodaeth: 65
Man Cyfarfod: Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog
Ymarferion: 7:30pm bob nos Iau, croeso cynnes i bawb
Gwefan: corybrythoniaid.com
Côr Meibion Llangwm
Arweinydd: Bethan Smallwood
Cyfeilydd: Gwerfyl Williams, Rhian Jones
Ffurfiwyd: 1930
Aelodaeth: 43
Man Cyfarfod: Corlan Ddiwylliant Llangwm, Corwen
Ymarferion: Nos Lun 8pm
Lleisiau Llannerch
Arweinydd: Grês Pritchard
Cyfeilydd: Grês Pritchard
Ffurfiwyd: 2001
Aelodaeth: 40 (merched)
Man Cyfarfod: Ysgol Gymuned Llanerchymedd
Ymarferion: Nos Fercher (7.30)
Côr Meibion Caernarfon
Arweinydd: Mrs Menai Williams
Cyfeilydd: Mrs Mona Meirion Richards
Manylion: Sefydlwyd y côr yn 1967 gan gwmni bychan o weithwyr yn ffatri Ferodo. Erbyn heddiw mae ganddo 75 o aelodau ac mae wedi mwynhau nifer o lwyddiannau Eisteddfodol. Mae'n ffodus iawn i gael Bryn Terfel yn llywydd anrhydeddus.
Gwefan: cormeibioncaernarfon.org
Cororion
Arweinydd: Beti Rhys
Cyfeilydd: Delyth Vaughan
Manylion: Mae'r côr yn ymarfer yn Ysgol Gynradd Tregarth bob nos Iau am 7pm.
Clychau'r Grug
Arweinydd: Glenys Griffiths
Cyfeilydd: Heulwen Parry
Manylion: Mae ymarferion y parti merched yma, sydd â 25 o aelodau, yn cael eu cynnal yn festri Capel y Rhos, Llanrug bob nos Lun (8 - 9.30pm. Cafodd Clychau'r Grug ei ffurfio yn 1979 er mwyn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon.
Gwefan: mysite.wanadoo-members.co.uk/clychaurgrug
Côr Cymdeithas Cerddoriaeth Prifysgol Bangor
Arweinydd: Leigh Mason
Cyfeilydd: Tim Mills
Manylion: Gan ymarfer ar nos Fawrth (7.30 - 9.30pm) ym Mhrifysgol Bangor, mae 40 o aelodau yn y côr hwn.
Côr Cymunedol Bangor
Arweinydd: Pauline Down
Manylion: Ar ôl ffurfio yn 2000, mae'r aelodaeth wedi tyfu i tua 40 ac mae'r ymarferion yn cael eu cynnal bob nos Fercher (7.30 - 9.30pm) yng Nghaplandy Anglicanaidd, Ffordd Tywysog, Bangor. Mae'r côr yn canu darnau byr mewn gwahanol steiliau cerddorol o wahanol wledydd ac mewn harmoni digyfeiliant. Maent yn dysgu wrth y glust, felly does dim rhaid ichi fedru darllen cerddoriaeth. Croeso i aelodau newydd ddod draw am sesiwn blasu am ddim.
Côr Cyntaf i'r Felin
Arweinydd: Guto Puw
Cyfeilyddion: Andrew Angel, Awel Glyn a Carys Roberts
Manylion: Ar ol cael ei ffurfio yn Chwefror 2003, mae gan y côr cymysg dros 40 o aelodau ac yn cyfarfod i ymarfer yn Ysgol Gynradd y Felinheli bob nos Fercher (7.30pm).
Gwefan: www.corcyntafirfelin.co.uk
Hogia'r Ddwylan
Cyfarwyddwr cerdd: Ilid Anne Jones
Cyfeilydd: Rhian Roberts
Manylion: Wedi ei ffurfio yn 1966, mae gan Hogia'r Ddwylan dros 40 o aelodau sy'n ymarfer yn festri Capel Mawr, Porthaethwy bob nos Iau (7.30 - 9.30pm).
Gwefan: www.hogiarddwylan.co.uk
Côr Godre'r Aran
Arweinydd: Eirian Owen
Cyfeilyddion: Eirian Owen a Rona Jones
Manylion: Ar ôl cael ei ffurfio yn 1949, mae'r côr yma o 43 o leisiau meibion yn cyfarfod yn Llanuwchllyn i ymarfer ar nos Iau.
Côr Meibion Dolgellau a'r Cylch
Arweinydd: Geunor Roberts
Cyfeilydd: Eryl Williams
Manylion: Cafodd y côr yma ei ffurfio yn 1986 ac mae'n cyfarfod ar nos Fercher am 8 o'r gloch yn Ysgol Gynradd Dolgellau. Mae ganddo 28 o aelodau.
Côr Eifionydd
Arweinydd: Pat Jones
Cyfeilydd: Ann Jones
Manylion: Cafodd y côr cymysg yma ei ffurfio yn 1986 ac mae'r 40 o aelodau yn dod at ei gilydd ar nos Lun (7.30 pm) i ymarfer yn Ysgol Gynradd Treferthyr, Cricieth.
Gwefan: www.coreifionydd.cymru1.net
Friends in Harmony
Arweinydd: Christine Milner
Manylion: Cafodd y côr meibion yma ei ffurfio yn yr 1980au cynnar ac mae'r 20 o aelodau yn ymarfer yn Neuadd Gymuned Benllech ar nos Lun (7.45pm).
Côr Meibion Madog
Arweinydd: Timothy Hughes
Manylion: Ar ôl cael ei ffurfio yn 1957, mae'r côr yma wedi tyfu i dros 20 o aelodau ac maen nhw'n ymarfer ar nos Iau (7.30pm) yn Eglwys Sant Ioan ym Mhorthmadog.
Gwefan: www.meibionmadog.com
Côr Meibion y Penrhyn
Arweinydd: Owain Arwel Davies
Cyfeilydd: Menna Leyshon
Manylion: Y cofnod cynharaf o'r côr yma ydy yn 1893 ac mae'n ymarfer yn Ysgol Penybryn, Bethesda ar nos Lun (7.15pm). Mae ganddo 60 o aelodau.
Gwefan: www.cor-y-penrhyn.com
Côr Revelation Rock-Gospel
Arweinydd: Jess Baker
Cyfeilydd: Katie Farnworth
Manylion: Cafodd y côr yma, sydd ag 20 o aelodau, ei ffurfio yn 1996. Mae'n cyfarfod i ymarfer yn Adran Gerddoriaeth, Prifysgol Bangor ar nos Fercher (6.30-8.30pm).
Shades of Harmony
Arweinydd: Christine Milner
Manylion: Y ffurf benywaidd o Friends in Harmony, mae'r grŵp o ddeg o ferched yma yn ymarfer yn yr un lle â'r dynion, ond ar brynhawn dydd Mawrth (1.30pm). Cafodd ei ffurfio ym mis Mawrth 2000.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol