BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Holi Bryn Fôn
Dyma'r atebion i'ch cwestiynau chi i'r dyn ei hun.

Bryn FonBe sydd orau gennych chi - canu ta actio? (Catrin o'r Groeslon)
Canu, ar hyn o bryd, a bach o gynhyrchu hefyd. Dwi'n mwynhau yn arw.

Er hynny, byswn yn hoffi mynd 'nol i'r hen Les yn Talcen Caled os byswn yn cael y cyfle; roedd yna ddigon o scôp i wneud fwy efo fo.

Sut ydych yn mynd ati i sgwennu caneuon? (Nerys o Aberystwyth)
Mae'n amrywio - weithiau mae syniad yn dod i mi gyda'r nos ac mae'n rhaid codi i'w sgwennu i lawr, neu stopio'r car i nodi syniad am gân. Weithiau dwi'n codi yn y bore ac yn penderfynu, 'heddiw rhaid sgwennu cân', yn enwedig os yw dyddiad sesiwn yn y stiwdio yn nesau.

Fi sy'n sgwennu'r geiriau fel arfer ac wedyn yn ffarmio'r geiriau allan i bwy bynnag sy'n siwtio. Neu yn ddiweddar mae Rhys Parry wedi bod yn sgwennu'r gerddoriaeth yn gyntaf a dwi wedi bod yn sgwennu'r geiriau i gyd-fynd efo'r alaw.

Mi wnes i sgwennu sawl gân allan ym Mhatagonia pan es i allan i ffilmio, felly mae albwm Toca efo rhyw naws De Americanaidd. Roedd Patagonia yn arbennig a dwi'n hel fy arian i fynd yn ôl yna! Maen nhw'n siarad gwell Gymraeg na lot o Gymry gan nad ydynt yn siarad dim Saesneg.

Ym mhle yn y byd hoffech gynnal gig? (Nia o Gasnewydd)
Mi wnes i gymryd rhan mewn rhaglen teledu ar lwyfan y Grand Ole Opry yn Nashville unwaith - roedd yn brofiad gwych. Ond hoffwn fynd yn ôl i berfformio yng nghastell Caernarfon. Dwi'n hoffi'r syniad o'r Cymry yn cymryd drosodd y castell ac yn ei hawlio yn ôl i ni ein hunain. Roedd yr awyrgylch yn braf yna.

Pa fath o bethau mae eich ffans wedi lluchio ar y llwyfan? (Fran o'r Wyddgrug)
Pob math o bethau! Llyfrau, barddoniaeth, nicyrs, bra, bwyd a diod!

Rwyt ti'n llwyddo i apelio at bobl o bob oedran, beth yw dy gyfrinach? (Catrin o Landeilo)
S'gen i ddim syniad! Os fyswn yn gwybod byswn yn ddyn cyfoethog iawn. 'Da ni'n gwneud stwff i blesio ein hunain a digwydd bod yn plesio lot o bobl eraill hefyd.

Os cewch y cyfle i ganu deuawd gydag unrhyw ganwr, pwy fysech yn ei dewis? (Luned o Bontarddulais)
Dwi'n ffan fawr o Leonard Cohen, ac mae o wedi gwneud sawl peth efo Jennifer Warnes, felly hi. O'r sin Gymraeg, mae yna nifer o bobl - Meinir Gwilym, Heather Jones, Gwyneth Glyn, Sioned Mair - mae yna lwyth o ferched ffantastig efo lleisiau gwych ar hyn o bryd.

Be di'r atgof cynta' sy gennych o'ch plentyndod? (Elin o Bwllheli)
Mae gen i gof difrifol! Mae'n debyg mai un atgof oedd yn nhŷ fy nain yn y Groeslon, sef hen gartref mam. Roeddwn yn helpu fy wncl efo gwaith tir efo'r ceffylau - dim tractor adeg yna - ac yn deall am y tro gyntaf fy mod wedi newid o'r pentref i'r fferm.

Beth oedd y record gyntaf i chi ei brynu? (Catherine o Abertawe)
Y sengl gyntaf oedd Brawd Hwdini gan Meic Stevens.

Pwy fyddwch chi'n gwrando arnyn nhw fel grwpiau? (Nia o Ddolgellau)
Dwi'n gwrando ar lot o stwff gwahanol gan fy mod wedi ffurfio Label Abel. 'Da ni newydd ryddhau CD gan Tebot Piws, a fi ddaru ei gynhyrchu. Mi wnes i fwynhau - dwi yn helpu cynhyrchu stwff fy hun, ond roedd yn gyfrifoldeb mawr cynhyrchu stwff rhywun arall. Roeddwn yn poeni fy mod am upsetio nhw ond oherwydd ein bod yn ffrindiau aeth popeth yn dda.

Dwi ddim yn dda iawn efo technoleg wrth gynhyrchu - dwi jest yn mynd efo be' dwi'n teimlo sy'n swnio'r da a mynd efo fo.


Radio Cymru
Digwyddiadau
Adolygiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy