  |
 |
 |
Seindorf Arian Llanrug Mae dilyn y band yn golygu ymroddiad aruthrol, cyfeillgarwch mawr, cythraul canu, siom a llawenydd dibendraw. |
 |
 |
 |
Cafodd hyn i gyd ei ddangos mewn rhaglen deledu arbennig am Seindorf Arian Llanrug gafodd ei wneud gan BBC Cymu, Y Band yn 2002-03.
Aeth y cynhyrchydd teledu, Gwenan Pennant Thomas, i ddilyn y band ar ei daith i frig byd y bandiau, yn dilyn blynyddoedd o siom a cholli.
"Am flynyddoedd maith mi fuo'r band yn colli ond gydag arweinydd newydd, Gavin Saynor wrth y llyw a'r cadeirydd ifanc, Berwyn Owen, yn llawn brwdfrydedd mi roeddan ni yn dilyn band oedd ar ei ffordd i fyny!" meddai Gwenan sy'n gynhyrchydd gyda BBC Cymru ym Mangor.
Does dim amheuaeth am bwysigrwydd y band i drigolion Llanrug.
"Ma'r holl bentra'n dod at i gilydd i hel pres i'r band fynd i gystadlu yn Dundee. Y pwyllgor merched yn gwerthu cacennau ar y Maes yng Nghaernarfon a'r aelod ieuengaf, Aled sy'n 14 oed, yn golchi ceir yn y pentref i'r band," meddai.
Bu Gwenan yn dyst hefyd i wefr y cystadlu, y paratoi ymlaen llaw, y perfformiadau ar lwyfan a hyd yn oed y siom o golli ddwywaith ar ôl ei gilydd a hynny un tro i'r arch-elyn, Band Deiniolen - pentref sydd ond tafliad carreg go lew o Lanrug.
Ond er gwaethaf pob colli mae yna fôr o hiwmor a ffraethineb hefyd wrth i'r band ddal ati er gwaethaf pob siom a dod o hyd i lwyddiant ym Mhencampwriaeth Bandiau Pontins fis Hydref 2003. Cliciwch yma i gael gwybod mwy am Gavin Saynor - Yr Arweinydd ar y pryd Berwyn Pils a Crim - Y Cadeirydd Aelodau eraill band Llanrug
 |
 |
 |
 |
|
|