BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Blaenau Ffestiniog
Linda Jones Yng ngolau Seren
Menter sy'n cydweithio gyda phobl efo anawsterau dysgu ydi Seren. Dyma'i hanes gan Linda Jones, cyfarwyddwraig sy'n rheoli'r cynllun.
Mae Cwmni Seren ym Mlaenau Ffestiniog yn enghraifft wych o sut y mae gweithio mewn partneriaeth yn helpu i adfywio cymunedau a sut y mae modd troi'r negyddol yn bositif gyda'r cymorth iawn.

Fe ddechreuodd y Cwmni saith mlynedd yn ôl wedi i'r cyngor lleol benderfynu cau parc yn y Blaenau oherwydd diffyg adnoddau i ofalu amdano.

Yn barod yn gweithio gyda phobl ag anawsterau dysgu gwelais gyfle i droi'r argyfwng yn fusnes i roi gwaith i bobl dan anfantais a rhoi gwasanaeth i'r gymdeithas.

Pan ddywedodd y Cyngor eu bod nhw'n cau'r parc oherwydd diffyg adnoddau roedd o'n gyfle gwych i ni i ddechrau Cwmni a dysgu pobl sydd ag anawsterau dysgu i weithio.

Da ni'n gwmni sydd wedi creu cyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu sy'n creu cyfleoedd ar gyfer pobl eraill, felly mae'r peth wedi'i wrth droi yn gyfangwbl.

Fe ffurfiodd y Cwmni mewn cydweithrediad a gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Gwynedd ac, erbyn hyn, mae'n cyflogi 38, gydag 16 o'r rheiny ag anawsterau dysgu. Man cychwyn oedd y parc, gan fod y busnes bellach yn trin gerddi yn Llan Ffestiniog, yn meithrin a gwerthu planhigion, yn gwneud cynnyrch cartref, crefftau,cardiau cyfarch, blodau sych ac anrhegion.

Un o'r mentrau mwy diweddar yw'r gwasanaeth ailgylchu dodrefn.

Logo SerenEr ei fod yn fusnes arbennig, mae Seren cyf. Wedi manteisio ar wasanaethau nifer o asiantaethau lleol a chenedlaethol ac wedi cael cymorth arian o gronfeydd Ewropeaidd.

Roedd y Cwmni datblygu lleol, Antur Dwyryd Llyn, yn allweddol yn y busnes o ddatblygu Seren Cyf. Roedd eu cymorth yn cynnwys llunio cynllun busnes, dod o hyd i nawdd a chyngor busnes cyffredinol.

Roedd yna sawl ffynhonnell ariannol hefyd gan gymwys arian oddi wrth Gwlwm Gwledig Cyngor Sir Gwynedd er mwyn prynu canolfan ym Mlaenau Ffestiniog.

Mae honno'n enghraifft o rai o'r cronfeydd sydd ar gael yn benodol i helpu mentrau yng nghefn gwlad Cymru. Elfen arall hanfodol oedd manteisio ar brofiad mudiadau eraill sy'n gweithredu mewn modd tebyg mewn ardaloedd cyfagos.

Mae ein gweithgareddau yn fodd i ni weld cymaint fu dylanwad positif y cwmni yn y blynyddoedd diweddar, ac wrth i'r cwmni barhau i dyfu ac ehangu, dyna hefyd fydd yn digwydd o ran y manteision i'r gymuned yn gyffredinol.



Straeon Digidol
Trefi
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy